Soundworks

Mae’r sesiynau cerddoriaeth hyn yn rhan o’n rhaglen gynhwysol o weithgareddau creadigol i oedolion a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, ac maen nhw’n cynnig cyfleoedd creadigol rhagorol i bawb.

Mae Soundworks, ein gweithdai creu cerddoriaeth i oedolion sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau cynhwysol hyn yn annog cyfranogwyr i fwynhau seiniau, rhythmau ac offerynnau mewn cyd-destun anffurfiol, hygyrch a diogel. Yn ystod y sesiynau, bydd y cyfranogwyr yn edrych ar gerrig sylfaen cerddoriaeth, gyda chymorth ac anogaeth eu gofalwyr. Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau sy’n golygu defnyddio cerddoriaeth i feithrin sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder eu cleientiaid.  

Dyma le creadigol sy’n llawn hwyl, yn gyfeillgar ac yn RHAD AC AM DDIM!

Mae dwy sesiwn: 11am-12.30pm a 1.30pm-3pm. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal ar Lefel 1 yn Neuadd Dewi Sant. Mae croeso wastad i aelodau newydd – cysylltwch â ni dros e-bost: a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com neu drwy ffonio 02920 878572.

Cerddorion a Hwyluswyr:

Soundworks i BOBL IFANC 

Mewn partneriaeth â Barnardo’s, mae Actifyddion Artistig yn cynnal sesiynau Soundworks i bobl ifanc bob dydd Mercher yn ystod y tymor, i blant hyd at 18 oed. Yn ystod y sesiynau hyn, bydd y plant yn dysgu am elfennau creu cerddoriaeth, yn ogystal â chael cyfle i roi cynnig ar offerynnau gan gynnwys iwcalilis ac offerynnau taro. Byddan nhw hefyd yn cael clywed offerynnau fel y sielo a’r clarinét yn cael eu chwarae’n fyw gan gerddorion proffesiynol.

Wedi’i ariannu gan Anthem, Cronfa Gerdd Cymru, drwy ei chronfa Atsain. Mae buddsoddiad gan Youth Music yn cefnogi’r gwaith hwn, ynghyd â chefnogaeth gan noddwyr sefydlol Anthem a Llywodraeth Cymru.

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD