Rydyn ni’n cefnogi gweithgareddau creu a chyflwyno cerddoriaeth gyda chymorth proffesiynol waeth beth fo arbenigedd, lefel sgiliau a chefndir cyfranwyr. Y bwriad wastad yw creu gwaith o’r safon orau bosibl, boed gan unigolion neu grwpiau mawr neu fach.
Mae cwrs pump diwrnod a gynhelir yn ystod gwyliau’r haf yn Neuadd Dewi Sant yn rhan ganolog o’r ddarpariaeth. Ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 18 oed y mae’r cwrs hwn a’r bwriad yw eu hannog i greu bandiau a chyfansoddi gweithiau.
Eleni, bydd MusicMix 2013 yn gweithio gyda 25 o bobl ifanc i ffurfio cerddoriaeth roc eclectig gyda gitarau a drymiau, yn ogystal ag offerynnau cerddorfa traddodiadol, MC’s a lleisiau. Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio i ystyried ystyr “Legacy” dan arweiniad tiwtoriaid o Gerdd Cymunedol Cymru ac Actifyddion Artistig. Bydd perfformiad ar brif lwyfan Neuadd Dewi Sant am 7.30pm 9 Awst yn goron ar y cyfan, a ddilynir gan ddigwyddiad ôl-sioe i gyfranogwyr a’u teuluoedd.
Fydd MusicMix yn cael ei cynhelir rhwng 5-9 Awst. Mae’n costio £50, a phennir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin.
I gymryd rhan, llenwch y ffurflen gais isod.




