Rydyn ni’n gweithio gyda disgyblion ysgolion cynradd ac yn defnyddio’u gwaith i greu perfformiad hwyliog sy’n ystyried materion yn ymwneud â llygredd a pharch i’r amgylchedd drwy gerddoriaeth, celf weledol a barddoniaeth.
Mae’r plant yn gweithio gydag awduron, cerddorion ac artistiaid i greu cerddi a chaneuon wedi eu hysbrydoli gan eu teimladau am sbwriel a gwastraff. Penllanw’r gwaith yw perfformiad yn Neuadd Dewi Sant.
Mae hwn yn gyfle gwych i ysgolion ac artistiaid proffesiynol i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth. Yn ogystal â datblygu galluoedd cerddorol plant, mae llawer iawn o waith trawsgwricwlaidd hefyd yn digwydd. Mae staff ysgolion hefyd yn derbyn hyfforddiant gwerthfawr a phrofiad o greu cerddoriaeth gyda phlant. Mae Tidy! yn broject sy’n cael effaith ar ysgolion am flynyddoedd wedi i’r project ei hun ddigwydd.

