Athrawon ac Artistiaid, mae arnom eisiau eich cyfraniad
Er mwyn ymorol bod ein blog a’r rhwydwaith yn gyffredinol yn fuddiol ac yn berthnasol i chi, carem i chi – yn athrawon ac yn artistiaid fel ei gilydd – anfon atom astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer gorau. Os bu gennych neu os ydych yn llywyddu neu’n arwain prosiect neu breswyliad celfyddydau ar hyn o bryd, beth am sôn amdano wrthym? Soniwch wrthym sut y digwyddodd, pa ffurf(iau) ar gelfyddyd sydd dan sylw a beth mae’r disgyblion yn ei gyflawni. Gallwch gynnwys delweddau* o’r gwaith ar y gweill a chofiwch y gall fod mewn unrhyw ffurf neu ffurfiau ar gelfyddyd. Rydym yn ymddiddori’n neilltuol mewn clywed am ganlyniadau eich prosiect. At hynny, a oedd yna broblemau ar hyd y ffordd roedd rhaid eu datrys, felly soniwch wrthym am hynny hefyd a sut yr aethoch chi i’r afael ag unrhyw broblemau a gafwyd.
Nid yn unig y bydd beth ddwedwch chi wrthym yn gymorth i ni fapio’r gweithgaredd sydd ar fynd ledled yr ardal, ond lle bo modd a lle bo’n addas fe gynhwyswn eich cyflwyniadau yn ein blog.
Hefyd os ydych chi naill ai’n ysgol ac arnoch eisiau prosiect celfyddydau neu artist ar gael i weithio mewn ysgolion, rhowch wybod i ni. Mae’r blog hefyd yn un ffordd y gallwn eich helpu chi i alw ar gymuned y celfyddydau ac ysgolion yn ardal Canol De Cymru. Allwn ni ddim addo y byddwn yn gallu dod o hyd i’r artist / ysgol sy’n cyd-fynd yn union i chi ond gobeithio y gallwn fod yn gymorth i chi ledaenu’r neges.
Felly…
Os ydych chi’n artist â’i fryd ar weithio mewn ysgolion, soniwch wrthym am eich gwaith cynt a’ch arbenigedd.
Os ydych chi’n ysgol yn chwilio am gyfraniad artist, soniwch wrthym am eich anghenion, y cyfnod dan sylw ac ychydig am beth rydych yn gobeithio y bydd y prosiect yn ei gyflawni.
Beth bynnag rydych am ei rannu am y celfyddydau mewn addysg, anfonwch y manylion atom fel y gallwn ei gynnwys yn ein blog. Gallwch e-bostio atom yn a2@arts-active-trust.flywheelstaging.com
*Os ydych yn anfon ar ffurf cyfryngau cofiwch roi i ni hefyd y llun / fideo wedi’i lofnodi a ffurflenni caniatâd ar lein unrhyw un a gynhwysir. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cofiwch gysylltu â ni.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!