30 Ionawr 2017

Cynhyrchydd cyfathrebu ar ei liwt ei hun: Cyfle gwaith: Ymunwch â’n tîm a llunio rhwydweithio celfyddydau ac addysg yn Ne Cymru!

Teitl y swydd: Cynhyrchydd cyfathrebu ar ei liwt ei hun

Mae Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig ar drywydd cyfathrebwr creadigol, cryf ei gymhelliad o’i ben a’i bastwn i ymuno â’n tîm a’n helpu ni i ddatblygu A2:Clymu, rhwydwaith newydd cyffrous o ymarferwyr celfyddydau ac addysg yn rhanbarth De Cymru.

Manylion

Mae Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn rheoli A2:Clymu, sef y rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg ar gyfer rhanbarth De Cymru, sy’n rhan o’r Cynllun Gweithredu Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau. Prif ddiben y rhwydwaith yw hyrwyddo gwaith mewn prosiectau dysgu creadigol mewn ysgolion, gan artistiaid a chyrff yn y celfyddydau, yn cydweithredu ag athrawon ac ysgolion yn y rhanbarth.

Mae A2:Clymu ar drywydd rhywun proffesiynol creadigol, unplyg, profiadol a threfnus, sy’n gweithio ar ei liwt ei hun, i ddarparu ar gyfer y rhwydwaith gynnwys cyfathrebu digidol graenus sy’n cwmpasu gweithgareddau a dysgu’r rhwydwaith, ei aelodau a’r maes celfyddydau ac addysg ehangach, a chanddo’n amcan hybu cymryd rhan mewn dysgu creadigol ymhlith disgyblion ysgol.

Bydd y Cynhyrchydd Cyfathrebu’n rhyngweithio â staff y rhwydwaith, artistiaid, staff cyrff yn y celfyddydau, athrawon a staff ysgolion, i argymell ac i gaffael pynciau addas ac i gynhyrchu cynnwys difyr am eu gweithgaredd ynghlwm â’r celfyddydau ac addysg. Bydd yn gyfrifol am gynhyrchu a lledaenu cyfathrebiadau ar newyddion, cyfleoedd datblygiad proffesiynol, digwyddiadau rhwydweithio a gweithgareddau aelodau’r Rhwydwaith, ac am annog a chefnogi aelodau’r rhwydwaith i rannu eu meddyliau, eu profiadau a’u gwaith ym maes dysgu creadigol. Bydd y cynhyrchydd cyfathrebu hefyd yn gweithio gyda’r Strategydd Digidol i gefnogi aelodau’r Rhwydwaith i ddatblygu, i brofi, i hyrwyddo ac i fabwysiadau ei wefan.

Gofynion

  • Sgiliau cyfathrebu digidol rhagorol, a phrofiad o ymchwilio, creu a chyhoeddi a marchnata cynnwys drwy wefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
  • Sgiliau cynhyrchu rhagorol ym meysydd sgrifennu a’r cyfryngau (yn enwedig ffotograffiaeth a fideo)
  • Sgiliau eithriadol o ran trafod pobl – rhywun sy’n gwybod sut i alluogi pobol eraill i rannu eu straeon ac ysbrydoli cydweithwyr.
  • Gallu rheoli ei amser a’i weithgaredd ei hun yn ôl blaenoriaethau a gytunwyd â chydweithwyr.
  • Diddordeb brwd mewn dysgu creadigol a defnyddio’r Celfyddydau oddi mewn i’r sector Addysg
  • Rydych yn rhedeg eich busnes eich hun ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb am eich treth a’r yswiriant gwladol eich hun
  • Mae gennych eich modd cludo eich hun a gallwch deithio drwy hyd a lled De Cymru
  • Byddai siaradwr/sgrifennwr dwyieithog (Saesneg a’r Gymraeg) yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.

Bydd y Cynhyrchydd Cyfathrebu’n gweithio dan gyfarwyddyd Grw^p Llywio Cynnwys, sef cyd-drefnydd y Rhwydwaith, cyd-drefnydd Cynorthwyol y rhwydwaith a Strategydd Digidol y rhwydwaith.

Manylion

  • Rheolir A2:Clymu gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, sydd â’i chanolfan yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Yno y bydd peth o’ch gwaith.
  • Rhyddid i weithio’n hyblyg o ran amser a lleoliad.
  • Ffi fisol o £1000 ac unrhyw dreuliau teithio a gytunwyd
  • Bydd gofyn i ni weld tystiolaeth eich bod yn weithiwr ar ei liwt ei hun wedi ennill ei blwyf a bod gennych gleientiaid eraill.

I wneud cais:

Anfonwch CV cyfredol a llythyr eglurhaol, yn datgan eich addasrwydd i’r rôl yma at dave@arts-active-trust.flywheelstaging.com

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 24eg Chwefror 2017. Cynhelir cyfweliadau ar 28ain Chwefror a rhoddir gwybod i’r ymgeisydd llwyddiannus ddydd Mawrth 3  2017.

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD