Yr wythnos ddiwethaf ymunais â grŵp drama blynyddoedd 9 a 10 o Ysgol Uwchradd Willows, Caerdydd mewn sesiwn arbennig gweithdy ac ymarfer gyda Chwmni Theatr Omidaze sy’n hwylio cynhyrchiad newydd o Romeo and Juliet. Anrhydedd prin oedd gweld proses y cwmni a gweld datblygu pob cymeriad yn ystod un olygfa fer, ddwys yn unig.
Ond yr un mor drawiadol oedd gweld y disgyblion oedd yn gwylio yn canolbwyntio ac yr un mor ddyfal â’r actorion. Cawsom hwyl ac roedd y gynulleidfa’n cymryd rhan ond gan mwyaf ymgolli llwyr oedd piau hi a ninnau i gyd yng ngafael tyndra a drama’r olygfa.
Mae Romeo & Juliet Gweithdy ac Perfformiadau gyda Chwmni Theatr Omidaze yn addas i ddisgyblion o flwyddyn 5 ymlaen.
Yn ystod y bore cefais air ag Yvonne Murphy, cyfarwyddwr Romeo and Juliet a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Omidaze, ac roedd ei hawch am ddod â theatr – a Shakespeare yn neilltuol – at gynulleidfaoedd newydd yn amlwg. (Gweler hefyd Yvonne cyfweld gan ‘Setting the Scene‘) Mae’r cynhyrchiad yma o Romeo and Juliet nid yn unig wedi’i brisio i fod yn hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf fyw fyd bosib ond mae wedi’i anelu at afael yn y gwyliwr cyfoes ifanc ac atseinio yn ei feddwl.
Ddydd Mercher diwethaf meithrinodd y disgyblion hynny o Ysgol Uwchradd Willows ddealltwriaeth ac amgyffred o gyd-destun Romeo and Juliet a bywyd actor nad â fyth yn angof.
Mae Omidaze yn defnyddio celfi theatr i ymrymuso pobol ifanc i fagu eu lleisiau a’u barnau drostyn nhw’u hunain, i allu cyflwyno ac i gael dweud eu dweud yn eu dyfodol eu hunain. Mewn geiriau eraill, y moddion i lunio’u bywydau drostyn nhw’u hunain mewn modd na allai Romeo a Juliet ei wneud.