Elusen Addysg yw Into Film sydd yn anelu at arfogi athrawon a’r sgiliau, adnoddau a’r wybodaeth gywir I ddefnyddio ffilm o fewn y dosbarth. Mae ethos Into Film yn ategu gweledigaeth yr Athro Donaldson o gefnogi pobl ifanc cymru I fod yn bobl ifanc alluog, creadigol a hyderus. Bydd y dinasyddion ifanc gwybodus, uchelgeisiol a chyflawn hyn yn mynd yn eu blaen I gyfrannu at gymdeithas ffyniannus, ddwyieithog, greadigol a digidol.
Manteisiwch ar wasanaethau am ddim Into Film, sydd wedi’u teilwra I gyd-fynd ag anghenion addysgol a diwylliannol ysgolion Cymru, wrth iddynt ddatblygu ac addasu i gofleidio’r cwricwlwm newydd.
Fel ysgol fe allech chi:
– gymryd rhan mewn hyfforddiant DPP ffilm
– ddefnyddio ein adnoddau addysgu sydd wedi’u creu I helpu athrawon I ddefnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth neu mewn clwb ffilm, gellir gweld y rhai sydd wedi’u creu yn benodol I Gymru yma
– gynnal digwyddidau ysbrydoledig dydd wedi’u harwain gan y diwydiant ffilm
– derbyn cefnogaeth I gynnal eich clwb ffilm eich hun
Dros yr wythnosau nesa, mi fydd Into Film yn cynnal digwyddiadau yn eich rhanbarth chim gan gynnwys sesiwn am waith Into Film a DPP a sut y gellir defnyddio ffilm i gyd-fynd ag amcanion y fframwaith ddigidol newydd, felly, ymunwch a ni ar y 15fed o Fehefin yn y Memo yn y Barri, ac aelodau o dim Into Film Ysgol Gynradd Ynys y Barri I ddysgu mwy am sut y gellir dechrau clwb ffilm yn eich hysgol chi. Os ydych chi eisoes yn rhedeg clwb yna bydd hefyd yn gyfle i rannu arfer dda a chael syniadau newydd.
I wybod mwy am waith Into Film neu I gael fwy o fanylion am y digwyddiad uchod ewch I https://www.intofilm.org/training/116
neu cysylltwch a non.stevens@intofilm.org