Dwyawr o chwarae cerddoriaeth i ddisgyblion o bob gallu
Cerddoriaeth draddodiadol Java a Bali yn Indonesia ydi’r gamelan, wedi’i wneud o offerynnau taro.
Dyma Rhian Workman, cerddor y Gamelan sy’n arwain grwpiau, i sôn rhagor wrthoch chi am y sesiynau blasu gwych i ysgolion.
Mae’n hwyl, ond a chanddo hefyd ran bwysig i’w chwarae mewn addysg cerddoriaeth ar bob safon. Mae’r sesiynau gamelan yma’n mynd i’r afael â llawer o’r cysyniadau yng nghwricwlwm cerddoriaeth cyfnodau allweddol un, dau a thri ac mae modd eu harchebu i fyfyrwyr Blwyddyn 3 hyd at y brifysgol.
Yn ystod y sesiwn mae grwpiau’n dysgu chwarae darn traddodiadol o Java. Gewch chi gyfle i chwilio’r gerddoriaeth yma o ddiwylliant arall ac mae’r gweithdy’n help i athrawon gyflwyno myfyrwyr i seiniau newydd a rhoi lle iddyn nhw ymateb i gerddoriaeth yn unigol ac fel dosbarth.
Mae’r myfyrwyr wrthi’n weithredol ac yn greadigol drwy gydol y sesiwn sy’n meithrin eu sgiliau gwrando, eu hyblygrwydd a cherddora grw^p. Mae hyn yn ei dro yn gwella datrys problemau, cyfathrebu a hunanhyder.
Does dim gofyn profiad o gwbl i gymryd rhan yn y gweithdy dihafal yma!
NEWYDDION YN DOD AR GLAWR! Cyn bo hir bydd adnoddau am ddim syfrdanol i’w cael i athrawon ar gyfer y gamelan yn yr ystafell ddosbarth – dewch yn ôl cyn hir i gael rhagor o newydd.
I archebu sesiwn gyda ni, gallwch naill ai ffonio ein Cydlynydd Prosiectau, Rhian Workman, i archebu dros y ffôn ar 02920 878574, neu lenwi ffurflen archebu ar Eventbrite <https://www.eventbrite.co.uk/e/try-gamelan- for-schools-2017- 2018-tickets- 33992984933?ref=ebtn>.
BOOK ONLINE
Ffeithiau ynghylch gweithdai’r Gamelan
Faint o staff gaiff ddod gyda mi?
Rhaid i un athro o leiaf fod gyda’r myfyrwyr bob amser ond gewch chi ddod â chynifer ag y mynnwch chi ac os bydd y nifer yn caniatáu gewch chi i gyd ymuno hefyd!
Faint o ddisgyblion gaiff ddod gyda mi?
Mae yna le i hyd at ugain o fyfyrwyr yn un o weithdai’r gamelan – mae gennym ddigon o offerynnau i ugain o fyfyrwyr ar yr un pryd oni bai eich bod wedi archebu un o’n gweithdai amgen.
Ydi’r gweithdai’n addas i grwpiau o ysgol arbennig?
Ydyn, mae llawer o ysgolion arbennig yn dod â grwpiau i’n gweithdai. Gallwn ymorol bod cadeiriau ar gael lle bo anabledd yn nadu eistedd ar lawr a gallwn ymdopi â chadeiriau olwyn hefyd – rhowch wybod i ni beth ydi’ch anghenion pan fyddwch chi’n archebu.
Oes yna unrhyw beth y dylai fy nisgyblion a fi wybod ymlaen llaw?
Ar lawr y chwaraeir yr offerynnau felly mae trywsus yn fwy cyfforddus. Hefyd rydym yn gofyn i’r holl gyfranwyr a’r gwylwyr dynnu eu sgidiau.
Gaf i dynnu lluniau?
Cewch, mae croeso i chi ddod â’ch camera. Hefyd gewch chi wneud recordiad sain neu fideo ar ddiwedd y gweithdy i ddogfennu perfformiad terfynol y grw^p. Chewch chi ddim recordio’r gweithdy ar ei hyd.
Costau
£95 – Trïo’r Gamelan – Blwyddyn 4 – 12 – Mae’r sesiwn yma ar gael i hyd at ugain o ddisgyblion a bydd yn para hyd at ddwyawr. Bydd y disgyblion yn treulio dwyawr yn cael profiad ymarferol o ddysgu darn o gerddoriaeth ar ddull lancaran. Byddant yn datblygu eu sgiliau rhythmig, melodig, saernïaeth a gwrando. Erbyn diwedd y sesiwn bydd modd chwarae darn cyfan.
£120 – Trïo’r Gamelan Wedi’i Hybu – Blwyddyn 4 – 6 – Gellir cynnig y sesiwn yma i hyd at ddeg ar hugain o ddisgyblion a bydd yn para hyd at ddwyawr. Defnyddir y gamelan mewn rhan o’r sesiwn ond bydd yna ganolbwyntio hefyd ar feithrin sgiliau rhythmig, melodig, saernïaeth a gwrando i roi lle i ddisgyblion ddysgu darn newydd ar ddull lancaran. Erbyn diwedd sesiwn fel arfer mae modd chwarae darn cyfan.
£120 – Trïwch y Gamelan Wedi’i Hybu – Blwyddyn 2 a 3 – Gellir cynnig y sesiwn yma i hyd at ddeg ar hugain o ddisgyblion a bydd yn para hyd at ddwyawr. Bydd y disgyblion yn chwilio cerddora gan ddefnyddio’r gamelan yn canolbwyntio ar feithrin eu sgiliau rhythmig, melodig, saernïaeth a gwrando. Erbyn diwedd sesiwn fel arfer bydd y disgyblion wedi dysgu’r holl elfennau a ddefnyddir mewn darn o gerddoriaeth gamelan ar ddull Lancaran, megis saernïaeth, melodi, rhythm a gwrando, fodd bynnag fel arfer ni pherfformir darn cyfan ar y diwedd.
£95 – Chwilio’r Gamelan – Safon Uwch/Prifysgol – Mae hwn run fath â SESIWN FLASU SAFONOL ond gellir ei ddwyn ymhellach drwy ddysgu Lancaran cymhlethach ac iddo gyfalaw a/neu fwrw golwg ar ddarn ar ddull Ladrang (trafodir hyn cyn eich gweithdy). Erbyn diwedd y sesiwn bydd modd chwarae o leiaf un darn cyfan.