Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru
Mae gennym ddosbarth cymysg Blynyddoedd 1 a 2 ac ynddo amrediad eang o alluoedd. Rydym am wella dawn dweud ein plant Blwyddyn 1 ac ehangu sgiliau sgrifennu ein plant Blwyddyn 2. Byddem hefyd wrth ein boddau’n rhannu rhai o’n strategaethau darllen a sgrifennu â’r rhieni gan gynnwys rhai o’r triciaeu sillafu, fel y gallant gefnogi eu plant ar yr aelwyd. Rydym ar drywydd adroddwr straeon neu ymarferwr drama i weithio gyda grwpiau bychain, i symbylu eu sgiliau adrodd straeon. Mae arnom eisiau rhywun all ysbrydoli, ac ennyn diddordeb ein disgyblion ifainc dan do ac yn yr awyr agored.
Rhagor o wybodaeth ruth@ruthgarnault.co.uk