Athrawon yn dysgu sgiliau cyfarwyddo gan bobol broffesiynol ym maes Shakespeare
Mae dysgu Shakespeare yn gallu cael effaith gyda’r mwyaf syfrdanol ar fyfyrwyr – mae perfformio ar lwyfan proffesiynol yn ymdrwythol ac yn fywiocaol, a gall y profiad roi hyder iddyn nhw ddyheu am rywbeth a’i gyflawni mewn unrhyw yrfa.
Yn rhan o w^yl flynyddol y Shakespeare Schools Foundations aethom i weithdy, lle cafodd grw^p o athrawon y cyfle i ddysgu sgiliau cyfarwyddo yn amgylchfyd difyr a chefnogol Canolfan yr Urdd yng Nghaerdydd.
Heee haaa ho!
These teacher director workshops aren’t quiet! pic.twitter.com/osCsdmNkHK
— A2: Connect (@A2ConnectWales) June 7, 2017
Rhoes y broses drwyadl ond ysbrydoledig yr hyfforddiant a’r adnoddau i’r athrawon gyfarwyddo eu myfyrwyr mewn drama hanner awr gan Shakespeare yn eu theatr broffesiynol leol.
Teachers getting techniques for directing by acting a scene from Hamlet, and they’ve called it ‘dysfunctional family showdown’ 👑 👻 🔪😵 pic.twitter.com/CVF3cgJ2wM
— A2: Connect (@A2ConnectWales) June 7, 2017
Fel y dywedodd athro arall o’r gweithdy yma, “Roedd yn ysbrydoli i’r eithaf – fe fydd yn ailgynnau eich cariad tuag at y pwnc.”
Os carech ddod i’r W^yl Shakespeare i Ysgolion, a gweld yr ysgolion hyn wrth eu gwaith, bwriwch olwg ar y wefan i weld dyddiadau a phrisiau tocynnau’r W^yl yn yr hydref.
Gweithdai i athrawon
Os ydi hwn, ar ei olwg, yn rhywbeth y gallech fod ar eich ennill ohono, gallwch ystyried hefyd Weithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus Athrawon y Shakespeare Foundation.
Eglurodd un myfyriwr o W^yl 2016 sut yr elwodd ar brofiad yr W^yl Shakespeare i Ysgolion: ‘Cefais flas ar fod yn rhan o rywbeth na wnawn i mohono fel arfer a chael blas ar greu darn perfformio ac wedyn cael dangos ein darn ni i ysgolion a cholegau eraill.’
I athrawon cynradd
Mae’r gweithdy yma’n canolbwyntio ar roi bywyd i’r stori, ennyn diddordeb y disgyblion yn y cymeriadau a chwarae â chyfoeth iaith Shakespeare. Fe fwriwch olwg ar sut i osod yr ymarferion mewn cynllun o waith i greu amgylchfyd ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth.
I athrawon uwchradd
Byddwch yn canolbwyntio ar chwilio cymeriadau cymhleth, gan wneud y disgyblion yn berchnogion iaith Shakespeare a rhoi’r themâu yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain. O ran athrawon Saesneg, byddwch yn bwrw golwg ar sut y gellir defnyddio ymarferion i gefnogi cwricwlwm CA3 neu Amcanion Asesu CA4/5.
Adnoddau
Ar wefan Shakespeare Schools Foundation fe gewch adnoddau newydd campus sy’n cysylltu profiad y Shakespeare Schools Foundation â’r cwricwlwm yng Nghymru. Fe gewch bopeth sydd arnoch ei angen i roi bywyd i Shakespeare yn eich ystafell ddosbarth, o gynlluniau gwersi i adnoddau rhyngweithiol.