Cyflenwi Prosiect Tachwedd – Chwefror
Mae tair ysgol gynradd Llanharan, Llantrisant a Brynna yn cydweithredu unwaith eto ar ail flwyddyn eu taith Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae’r ysgolion ar drywyddYmarferwyr Creadigol ysbrydoledig i roi lle iddynt sylweddu darluniad artistig o’u darganfyddiadau. Bydd sgrifennu ffeithiol, blogio a chofnodi eu hymchwil hefyd yn rhan fawr o’r prosiect.
Maent yn awyddus i gynhyrchu darn o gelfyddyd ynghlwm â chyfoeth o hanes lleol yr ardal a byddant yn defnyddio’r thema hon o fewn canllawiau dibenion craidd a meysydd dysgu ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Mae’r prifathrawon yn awyddus i chwilio gweithgareddaurhifogrwydd a datrys problemau gyda’r disgyblion ynghlwm â gwneud a lleoli’r gwaith gorffenedig.
Mae’r tîm yn aruthrol o frwdfrydig, cefnogol a pharod i dderbyn syniadau. O ddal hyn mewn cof, maent ar drywydd Ymarferwyr Creadigol sy’n hyblyg, yn arloesol ac sy’n gallu meithrin perthynas â phlant ysgol fach.
- Amcan y prosiect at ei gilydd yw gwella sgiliau bywyd go iawn cymhwyso rhifogrwydd ac argraffu ar y cof a chwilio eu hanes lleol a chan hynny atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r byd ehangach.
- Mae darparu cyfleoedd dysgu tan gamp a llwybrau dyhead ar gyfer y dysgwyr ifainc yr un mor bwysig.
I gael rhagor o wybodaeth llwythwch i lawr y pecyn gwybodaeth hwn.