Bu Hyrwyddwyr Celfyddydau A2: Clymu yn rhannu eu profiadau o gydweithredu â phobl broffesiynol yn y celfyddydau i gyfoethogi’r dysgu yn eu hystafelloedd dosbarth. Mae ein tîm o ddeuddeg o Hyrwyddwyr Celfyddydau i gyd yn athrawon a chanddynt y celfyddydau’n arbenigedd naill ai fel athrawon pwnc, cydlynwyr neu drwy eu hyfforddiant a’u harfer eu hunain.
Ddydd Gwener arweiniodd dau o’r Hyrwyddwyr Celfyddydau o Ben-y-bont ar Ogwr sesiwn lwyddiannus ‘Prosiectau Celfyddydau Mynegiannol: Cydweithredu er Llwyddiant mewn Ysgolion’ i athrawon eraill yn Oriel Ty^ Carnegie ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod y prynhawn buont yn trafod arfer gorau a rhai o’r ystyriaethau allweddol ynghlwm â gweithio ar y cyd â rhywun proffesiynol neu gorff yn y celfyddydau.
Er enghraifft:
- Ymhle mae cychwyn pan fyddwch yn chwilio am artist addas i weithio yn eich ystafell ddosbarth?
- Am beth y dylech chi feddwl pan fyddwch yn mynd â nhw drwy eu hymweliad neu brosiect?
- Beth sydd arnynt angen ei wybod a beth mae gofyn i chi gael gwybod ganddyn nhw?
- Pwy arall ddylai fod yn rhan o gynllunio ymweliad neu brosiect?
- Sut mae ei gyllido?
Dyfeisiwyd y sesiwn gan Hyrwyddwyr Celfyddydau A2: Clymu a weithiodd ar y cyd ag Artworks Cymru i bennu rhestr wirio a phecyn cychwyn o wybodaeth i athrawon, sy’n tynnu ar y cyngor arfer gorau sydd yn Egwyddorion Ansawdd Artworks Cymru.
Erbyn diwedd y prynhawn roedd pawb wedi’u hysbrydoli, yn llawn brwdfrydedd ac yn fwy hyderus ynghylch dod â phobl broffesiynol yn y celfyddydau i’w hystafelloedd dosbarth. Mae prosiectau celfyddydau llwyddiannus yn gallu sefydlu gwaith sy’n uno’r celfyddydau mynegiannol creadigol ac sy’n plannu profiadau dysgu cofiadwy ar draws y cwricwlwm yn yr ystafell ddosbarth.
Os carech drefnu sesiwn cymar i gymar gan un neu ragor o’n Hyrwyddwyr Celfyddydau ar gyfer staff eich ysgol, grw^p clwstwr, Grw^p Diddordeb Arbennig neu unrhyw rwydwaith arall o athrawon, cofiwch gysylltu â ni. Lle bo’n addas gall A2: Clymu fod ar gael yn gymorth i chi gael hyd i bobl broffesiynol yn y celfyddydau i ddod i’ch ysgol. Os ydych am gael gwybod rhagor ynghylch sut y gallwn fod o gymorth i chi, cofiwch gysylltu â ni drwy ein blog www.a2connect.org ac fe’n cewch ni hefyd ar y Parth Dysgu Creadigol https://dysgu.hwb.gov.wales/go/wesieq