Gweithdy hyfforddi tridiau Gwneud Masgiau a Drama i Athrawon (yn neilltuol Cyfnod Allweddol 2 uchaf).
dydd Mercher 15 – dydd Gwener 17 Tachwedd
09:30 – 15:30
Canolfan Celfyddydau Neuadd Llanofer,
Treganna, Caerdydd.
Yn ystod y tridiau eir â chi drwy broses chwilio creadigol sy’n defnyddio ymarferion a thasgau tebyg i’r rheini mae pobl y theatr broffesiynol yn eu defnyddio i ddylunio masgiau, yn creu symud a nodweddion addas i roi bywyd iddo.
Mae llefydd ar y cwrs am ddim i’w cadw a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod, drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £180 y diwrnod.
Bydd y sesiynau’n defnyddio testun yn fan cychwyn cynnig themâu a delweddau a ddarganfyddir ac a ddatblygir drwy amrediad o weithgareddau, chwaraeon ac ymarferion drama ynghlwm â llythrennedd. Cymhwysir y cyfranogwyr i gyflenwi’r rhain yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain ac i ddatblygu eu cymhwyso at amrywiaeth o amgylchiadau.
Amcan y gweithdy celfyddyd fydd i’r cyfranogwyr greu masgiau 3D gan ddefnyddio dewis o ddeunyddiau addas i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a dysgu technegau y gellir mynd â nhw i amrywiaeth o wahanol brosiectau celfyddyd greadigol. Bydd yr elfen o wneud creadigol ar y cwrs yma’n rhoi cyfle i athrawon ddatblygu eu sgiliau celfyddyd eu hunain gyda rhoi mwy o hyder iddyn nhw fynd i’r afael â phrosiectau celfyddyd yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r cwrs yma’n rhan o Siop Siafins, rhaglen hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus rhwydwaith celfyddydau ac addysg Canol De Cymru A2:Clymu i athrawon ac artistiaid.