Dydd Mercher 11 Hydref
09.00 – 15:00
Lefel 1
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Diwrnod o waith cwbl ymarferol gyda dau ymarferwr ysbrydoledig y gair llafar a barddoniaeth Slam o Lenyddiaeth Cymru.
Bydd Joelle Taylor (Cyfarwyddwr Creadigol SLAMbassadors) yn cyflwyno’r agweddau artistig ar SLAMbassadors; gan gynnwys hanes slam, tystiolaeth o effeithiau prosiectau creadigol ar gyrhaeddiad TGAU at ei gilydd a’r gwahanol ffyrdd o ddefnyddio slam o fewn addysg ffurfiol.
Bydd sesiwn y prynhawn dan arweiniad Michael Church yn cynnig technegau ennyn diddordeb ysbrydoledig ar gyfer gwaith llafar ac ysgrifenedig.
Mae’r diwrnod yma o hyfforddiant wedi’i fwriadu’n neilltuol ar gyfer athrawon grwpiau cyfnod allweddol 3.
Mae Joelle yn fardd, yn ddramodydd, yn berfformiwr, yn feirniad ac yn awdur arobryn a chanddi dros un mlynedd ar bymtheg o brofiad hwyluso dosbarthiadau meistr mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion drwy hyd a lled y wlad.
Rhoes Mike Church y gorau i’w swydd yn ddirprwy brifathro yn 2007 a dechrau gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur a pherfformiwr. Ers hynny sgrifennodd chwe llyfr ar hugain a thraddodi dros fil o weithdai i blant a phobl ifanc.
Mae llefydd ar y cwrs am ddim i’w cadw a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod, drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £180 y diwrnod.