19 Hydref 2017

Newyddion cyffrous ymchwil i’r celfyddydau mewn ysgolion

Yr wythnos yma buom yn darllen newyddion cyfareddol, sef bod miloedd o ddisgyblion ysgolion cynradd yn cymryd rhan mewn profion i weld sut y gall gweithgareddau fel cerddoriaeth a drama roi hwb i ganlyniadau yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd pob prosiect yn bwrw golwg ar ‘ddysgu diwylliannol’ a’r effaith mae’n ei gael ar gyrhaeddiad academaidd, creadigedd a hunanhyder.

Bydd y profion yn gweld:

  • Athrawon a disgyblion yn gweithio gydag awduron/darlunwyr i ddysgu sut i ddefnyddio llyfrau lluniau i wella sgiliau darllen a sgrifennu.
  • Datblygu sgiliau sgrifennu athrawon yn gymorth i wella hyder a chymhelliad disgyblion yn y pwnc.
  • Sesiynau drama wythnosol lle bydd plant pump hyd at saith oed yn cymryd eu tro’n awduron, yn berfformwyr a’r gynulleidfa.
  • Newyddiadurwyr yn gweithio gyda’r plant i’w helpu i sgrifennu a chyhoeddi erthyglau a rhoi pecynnau radio a theledu at ei gilydd.
  • Disgyblion yn dysgu hanfodion cerddoriaeth drwy chwaraeon canu a cherddorol dyddiol.

 

Y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) sy’n rhedeg ac yn cyllido’r rhaglen brawf gyflawn.

 

Os ydych chi’n darllen y blog yma, i’n tyb ni byddwch yn cytuno â ni fod hwn yn gynllun gwerth chweil yn wir, ac rydym yn llawn cyffro yn aros i glywed am beth rydym yn disgwyl fydd yn ganlyniadau syfrdanol.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD