Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Cyfle i Ymarferwyr Radio / Darlledu yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd! Ennyd fer i wneud cais!!!
“Mae ots beth ddwedwch chi”
Carai Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd greu prosiect yn canolbwyntio ar lafaredd drwy sefydlu gorsaf radio ysgol.
Ysgol uwchradd newydd yw Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, ar ei blwyddyn gyntaf. Rydym yn uchelgeisiol dros ein disgyblion a byddai’n dda gennym ehangu eu gorwelion, eu cysylltu â’r byd ehangach a meithrin eu hyder drwy rym geiriau. Yn ein tyb ni, byddai radio yn ffordd dan gamp o wrthbwyso’r chwilen ym mhen cymdeithas, sef delwedd, a dod â ni yn ein holau at eiriau a syniadau. I’n hysgol ni, byddai radio yn ffordd ardderchog o roi llais i’r disgyblion, cysylltu â’n cymdeithas leol a’n partneriaid creadigol, a chamu ymlaen yn arweinwyr yng nghymuned yr ysgol.
Ein bwriad yw gweithio gyda chriw o ddysgwyr Mwy Abl a Thalentog o Flynyddoedd 7, 8 a 9.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 6ed Tachwedd.
Gewch chi fanylion prosiect dysgu Creadigol Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yma
Ysgol Uwchradd Willows, Caerdydd
Ar y flaenoriaeth genedlaethol y mae’r canolbwynt, sef codi cyrhaeddiad mewn llythrennedd. Yng nghynllun gwella’r ysgol, rydym yn dewis canolbwyntio ar wella safonau a chanlyniadau mewn llythrennedd (yn enwedig sgrifennu creadigol ac estynedig a llafaredd). Byddwn yn gweithio gyda grw^p blwyddyn 8 o hyd at ddeg ar hugain o fyfyrwyr 12/ 13 oed; yn fechgyn a merched, set uchaf Iaith Saesneg.
Byddwn yn cychwyn ein Sianel Deledu ein hunain ar lwyfan digidol megis YouTube. Mae arnom eisiau gweithio gydag Ymarferwyr Creadigol lluosog i ymorol ein bod yn dwyn i mewn bob aelod o’r dosbarth.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Karen Dell’Armi, Asiant Creadigol, ar: karendellarmijewellery@gmail.com.
Cyflwynwch eich ceisiadau’n electronig i karendellarmijewellery@gmail.com Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3ydd Tachwedd 2017
Gewch chi fanylion prosiect dysgu Creadigol Ysgol Uwchradd Willows yma
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville, Caerdydd
Disgyblion Blwyddyn 2 o fis Ionawr tan fis Mawrth 2018 ar fore Iau neu fore Gwener
Ysgol amlddiwylliannol, ganol dinas ydym ni, yng nghanol Caerdydd. Mae ein plant yn hanu o bedwar ban byd ac yn medru dros ddeugain o ieithoedd. Rydym ar drywydd ymarferwr neu ymarferwyr creadigol i ddatblygu prosiect adrodd straeon (gallai hyn fod drwy gyfrwng iaith, theatr, symud neu bypedwaith). Amcanion ein prosiect yw:
- Ysbrydoli cariad at stori
- Datblygu a symbylu sgiliau llafaredd plant
- Chwilio hunaniaeth yng Nghymru
- Meithrin hyder ac annibyniaeth
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cais at Carole Blade, Asiant Creadigol yn: caroleblade@gmail.com
Dyddiad Cau: dydd Gwener 10fed Tachwedd, canol dydd
Dyddiad Cyfweliad: dydd Iau 16eg Tachwedd (pnawn)
Gewch chi fanylion prosiect dysgu Creadigol Ysgol GynraddTredegarville yma.
Prosiect Adrodd Straeon | Celf | Llythrennedd yn Ysgol Gynradd Oakfield Llaneirwg Caerdydd.
Rydym ar drywydd adroddwr straeon (deuddydd llawn) ac artist tirweddau/ tirnodau (dyddiau Mercher ac Iau bob wythnos) i ddatblygu a rhoi ar waith brosiect creadigol gyda dau ddosbarth Blwyddyn 2 rhwng misoedd Ionawr a Mawrth 2018.
“Pawb Arni” yw ein pwnc, yn canolbwyntio ar Gaerdydd. Byddwn yn rhoi tro am gestyll (naill ai Caerdydd neu Gastell Coch). Byddai’n dda gennym i’n hymarferwyr creadigol ein hysbrydoli i sgrifennu at lawer o wahanol ddibenion a genres a’n symbylu ni i sôn am ein gwaith.
Carai’r ysgol fesur effaith y prosiect ar gyrhaeddiad llythrennedd, yn neilltuol o ran sgrifennu, llafaredd ac ymddiddori.
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cais at Antonia Doyle (Antonia.doyle@oakfieldprm.cardiff.sch.uk)
Dyddiad Cau: dydd Mercher 8fed Tachwedd
Dyddiad Cyfweliad: dydd Gwener 17eg Tachwedd (pnawn)
Gewch chi fanylion prosiect dysgu Creadigol Ysgol Gynradd Oakfield yma.
Galwad am Ymarferwyr Creadigol – Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Eglwys Newydd, Caerdydd
Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd
Heol Glan y Nant
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 1AP
Ffôn: 029 20691247
Asiant Creadigol: Catrin Jones – catrin.jones@zoho.com
Gwefan Ysgol: www.ygmg.com
Enw Cyswllt Ysgol: Catrin Wyn Champion (cydlynydd ysgol) – catrin.champion@ysgolmelingruffydd.cardiff.sch.uk
Dyddiad Cau: 06/11/17
Dyddiad Cyfweld: 14/11/17
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth ymarferwyr creadigol (yn unigolion, yn bartneriaethau neu yn gwmnïau) i weithio gyda grŵp o hyd at 25 o ddysgwyr 6-7 mlwydd oed. Nod y prosiect yw Datblygu Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu y disgyblion, gyda’r prif ffocws ar sgiliau Llafar y dysgwyr. Yn ogystal, dymunwn ddatblygu Sgiliau Cymhwysedd Digidol y disgyblion gan archwilio ffyrdd o ddefnyddio technoleg ddigidol eto gyda’r ffocws ar lythrennedd. Bydd y prosiect yn ffurfio rhan o waith thema’r dosbarth ar gyfer Tymor y Gwanwyn sef ‘Cymeriadau’.
Bydd yr ymarferydd/ymarferwyr a benodir yn gweithio gyda’r athrawon a’r disgyblion i ddatblygu’r strwythur manwl, cynnwys a chanlyniadau’r prosiect.
Rydym yn chwilio am ymarferwyr gydag arbenigedd mewn drama, sgriptio, defnyddio technoleg / cyfryngau digidol mewn modd creadigol (ee delweddau symudol, ffilm, animeiddio, datblygu app, technoleg cerddoriaeth, graffeg, datblygu gemau cyfrifiadurol, cynhyrchu cyfryngau digidol / creadigol). Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol angenrheidiol ar gyfer y Prosiect hwn.
Rydym yn rhagweld cytundeb o tuag at 16 diwrnod gwaith rhwng Ionawr ac Ebrill 2018, ar gyfradd o £250 y dydd (i gynnwys yr holl ffioedd, treuliau a deunyddiau rhesymol). Gellir rhannu hwn rhwng ymarferwyr er mwyn sicrhau’r arbenigedd briodol ar gyfer wahanol elfennau’r Prosiect.
Os yr ydych yn teimlo bod y sgiliau cywir gyda chi, gofynnwn i chi anfon eich C.V. at y cyfeiriadau ebost uchod, ynghyd â llythyr byr yn amlinellu eich brofiad yn y maes dan sylw.
Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Margaret
Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Margaret ar drywydd un neu ddau ymarferwr creadigol i weithio gyda disgyblion Blwyddyn 3, yn defnyddio mannau awyr agored ac adrodd straeon i feithrin sgiliau llythrennedd, hyder a dysgu annibynnol.
Mae 43% ein plant yn ddysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ac ar y cyfan ychydig o gyfleoedd sydd ganddynt i brofi’r byd y tu allan i’w tref enedigol. Yn ddelfrydol, byddai’n dda gennym greu adeiladwaith adrodd straeon y gellir ei ailddefnyddio ar ein tiroedd gleision hyfryd a’i ddefnyddio i ehangu profiadau ein plant yn gymorth iddynt fagu gwytnwch a dyfalbarhad yn eu dysgu ac i symbylu eu dychymyg.
Byddai hyn i’r dim i artist 3D ac adroddwr straeon – neu rywun all gyfuno’r ddau sgil..
Gewch chi weld manylion prosiect dysgu Creadigol Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Margaret yma.
Ysgol Gynradd Tondu, Ysgol Gynradd Ffaldau ac Ysgol Gynradd Tynyrheol
Mae ein tair ysgol – Ysgol Gynradd Tondu, Ysgol Gynradd Ffaldau ac Ysgol Gynradd Tynyrheol – ar drywydd ymarferwr TGCh creadigol i weithio gyda’n disgyblion Blwyddyn 3 ar brosiect rhifogrwydd.
Mae ein disgyblion Blwyddyn 3 heb hyder ac aeddfedrwydd a’u gorwelion yn gul Gan ddefnyddio TGCh, tybed allwn ni symbylu dull o fyw iach a gwella sgiliau rhifogrwydd ar yr un pryd â’u helpu i dyfu, yn ddysgwyr annibynnol?
Byddai’n dda gennym
- Ehangu eu dealltwriaeth o ddiwylliannau a phobloedd eraill
- Meithrin hyder yn gweithio’n annibynnol
- Symbylu bwyta/dull o fyw iach
Byddai’n dda gennym ddefnyddio TGCh/chwarae/codio i gysylltu’r plant ar draws y tair ysgol a chael ganddynt ddefnyddio rhifogrwydd mewn ffordd sy’n hwyl. Byddai thema fantell ynghlwm â bwydydd byd-eang/bwyta/coginio iach yn rhoi lle iddynt hefyd ddefnyddio’u syniadau’n ymarferol.
Byddai hyn i’r dim i ymarferwr creadigol a chanddo ddigonedd o hyblygrwydd a deall digidol sy’n gallu dysgu codio neu alluogi plant i greu chwaraeon.
Ysgol Gyfun Bryntirion,
Pen-y-bont ar Ogwr
Disgyblion Blwyddyn 8 o fis Ionawr
tan fis Mawrth 2018.
Rydym â’n bryd ar chwilio strategaethau dychmygus i
feithrin hyder y disgyblion ym meysydd trafod, adborth llafar a myfyrio
beirniadol. Rydym hefyd yn awyddus i chwilio dulliau o ennyn diddordeb y disgyblion mewn dysgu drwy arfer rhyngddisgyblaethol gan ganolbwyntio’n neilltuol ar hanes, Saesneg, celf a pherfformio. Mae ein meddyliau cyntaf wedi dod â ni at thema ‘arwyr Cymru’ ac amgueddfeydd symudol. Does yna ddim syniadau sefydlog ynghylch canlyniadau’r prosiect, ond mae yna ddiddordeb mewn cyflenwi trafodaeth mewn cyd-destun perfformio a’i gwnâi’n hwyl i’r disgyblion. Gallai creu cwpwrdd arddangos o hynodion fod yn adnodd ac yn dreftadaeth i’w defnyddio yn y dyfodol yn yr adrannau hanes, Saesneg a drama. Carem bwysleisio ein bod yn barod i dderbyn syniadau ac awgrymiadau eraill sy’n ymateb i ganolbwynt y brîff.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, Tachwedd
3ydd
Cysylltwch â Heather Parnell, Asiant Creadigol: heather.w.parnell@gmail.com / tel: 07795554515
i gael rhagor o wybodaeth.
Gewch chi weld manylion prosiect dysgu Creadigol Ysgol Gyfun Bryntirion yma.
Coleg Cymuned Tonypandy
ac Ysgol Iau Penygraig
Tonypandy, CF40
Bydd y prosiect ar fynd o fis Ionawr 2018 tan ddiwedd mis
Mawrth 2018.
Mae dwy ysgol ar wahân yn Nhonypandy â’u bryd ar
ysbrydoli gwaith ar draws dau grw^p blwyddyn. Mae ar y plant angen cymorth i oresgyn eu hanawsterau Rhesymu – yng nghyswllt Rhifogrwydd. Mae’r bobl ifanc yn cael yr iaith a’r cyrchddull yn drafferth, o ran ateb cwestiynau sy’n gofyn meddwl strategol a sgiliau datrys problemau.
Mae arnom eisiau llunio dau brosiect a chanddyn nhw rai o
elfennau fformat ‘Crystal Maze’ neu ‘The Apprentice’ – chwilfa, antur neu her
sy’n ennyn diddordeb y cyfranogwyr drwy wahanol fodiwlau/ ffurfiau ar gelfyddyd
ymarferol/corfforol ar sail tasgau.
I’n tyb ni, byddai’r plant ar eu gorau’n gweithio drwy
amrywiaeth o dasgau cryno ymarferol/corfforol sydd rywfodd neu’i gilydd yn mynd
i’r afael â’r meysydd rhesymegu mathemategol sy’n dilyn
Byddem wrth ein boddau o glywed
gan Ymarferwyr Creadigol a allai ddod â’r rhai o’r canlynol (neu a allai
gydweithredu ag ymarferwr arall a allai wneud hynny): Artistiaid 3D/ Artistiaid Gweledol/ Cerflunwyr/ Tirlunwyr/ Dylunwyr/ Peirianwyr/
Garddwyr/ Ffotograffwyr/ Artistiaid Golygfeydd/ Gwneuthurwyr celfi llwyfan neu
bypedau ar raddfa fawr/ Dylunwyr Llyfrau / Selogion Chwaraeon/
Louise Osborn – louise.osborn@icloud.com
Gewch chi weld manylion prosiect dysgu Creadigol Coleg Cymuned Tonypandy ac Ysgol Iau Penygraig yma.
Ysgol Gynradd Pencaerau
Disgyblion Blwyddyn 4
Bydd y prosiect ar fynd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2018
a myfyrio a gwerthuso’n digwydd tua dechrau tymor yr haf ym mis Ebrill.
Dyma flwyddyn gyntaf Pencaerau yn ysgol greadigol
arweiniol ac mae’n canolbwyntio ar ddisgyblion Blwyddyn 4 a gwella rhesymegu
mathemateg. Y bwriad yw gweithio gyda’r dosbarth cyfan ond bydd hefyd yn canolbwyntio ar ddisgyblion sy’n ei chael yn anodd deall y cysylltiad rhwng sut y gofynnir cwestiynau mathemateg a’u gwybodaeth am amryw gysyniadau mathemateg. Mae’r ysgol yn chwilio am artist gweledol, dylunydd neu bensaer a chanddo sgiliau da o ran dylunio a gwneud. Mae ceisiadau i’w croesawu’n fawr gan ymarferwyr unigol neu dimau a chanddyn nhw gyrchddull neu syniad sy’n cyd-fynd ag amcanion y prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer
ceisiadau. dydd Mercher 25 Hydref
Asiant Creadigol Ysgolion Creadigol Arweiniol, Heather
Parnell
heather.w.parnell@gmail.com
Gewch chi weld manylion prosiect dysgu Creadigol Pencaerau yma.