23 Hydref 2017

Celfyddydau Mynegiannol ar gyfer Dysgu Trawsgwricwlaidd

Mae profiadau addysgol creadigol yn gallu dwyn ynghyd feysydd dysgu pwysig mewn ffyrdd sy’n hwyl ac yn ddifyr.

Mae ein cyrsiau’n cynnig cyfleoedd i gyfuno gweithgaredd yn y celfyddydau â meysydd dysgu eraill yr ystafell ddosbarth.

Gwneud Masgiau a Drama

dydd Mercher 15 – dydd Gwener 17 Tachwedd
09:30 – 15:30

Canolfan Celfyddydau Neuadd Llanofer, Treganna, Caerdydd.

Mae llefydd ar y cwrs am ddim i’w cadw a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod, drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £180 y diwrnod.

Yn ein Cwrs Hyfforddi Athrawon, Gwneud Masgiau a Drama, y mis yma gallwch ddatblygu strategaethau i’w cynnwys mewn un thema:

  • llafaredd
  • darllen
  • sgrifennu
  • straeon gwerin
  • myth a chwedl
  • Cwricwlwm Cymreig
  • Datrys problemau’n greadigol
  • deall, ymchwilio a gwneud
  • dysgu am amgylcheddau naturiol
  • symud 

Achebwch ar lein nawr

Yn ystod y tridiau eir â chi drwy broses chwilio creadigol sy’n defnyddio ymarferion a thasgau tebyg i’r rheini mae pobl y theatr broffesiynol yn eu defnyddio i ddylunio masgiau, yn creu symud a nodweddion addas i roi bywyd iddo.

Bydd y sesiynau’n defnyddio testun yn fan cychwyn cynnig themâu a delweddau a ddarganfyddir ac a ddatblygir drwy amrediad o weithgareddau, chwaraeon ac ymarferion drama ynghlwm â llythrennedd. Cymhwysir y cyfranogwyr i gyflenwi’r rhain yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain ac i ddatblygu eu cymhwyso at amrywiaeth o amgylchiadau.

Amcan y gweithdy celfyddyd fydd i’r cyfranogwyr greu masgiau 3D gan ddefnyddio dewis o ddeunyddiau addas i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a dysgu technegau y gellir mynd â nhw i amrywiaeth o wahanol brosiectau celfyddyd greadigol. Bydd yr elfen o wneud creadigol ar y cwrs yma’n rhoi cyfle i athrawon ddatblygu eu sgiliau celfyddyd eu hunain gyda rhoi mwy o hyder iddyn nhw fynd i’r afael â phrosiectau celfyddyd yn yr ystafell ddosbarth.

 

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 8th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 8th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD