18 Rhagfyr 2017

Cyfansoddi caneuon yn yr ystafell ddosbarth! Gweithdai MAT i ysgolion

Sut y gall gweithdy celfyddydau helpu plant gyda’u llythrennedd? I chwilio gwybodaeth a syniadau’r tu hwnt i’w profiad personol, ac i gyfrannu i drafodaethau grŵp, fel bod pawb yn cymryd rhan?

Un ateb: gweithdy’r Doctor Cyfansoddi Caneuon i ysgolion!

Cawsom siawns am sgwrs â Larry Williams, y chwedl cyfansoddi caneuon sy’n rhedeg y gweithdai i blant Blynyddoedd 3 hyd at 7, ac sydd hefyd yn athro yn Ysgol Gynradd Rhydypenau yn Llanisien.

“Yn fy ngweithdai byddwn yn treulio diwrnod yn sgrifennu geiriau’r caneuon, yn canu drwy syniadau, yn coethi ac yn gwella wrth fynd ymlaen nes bydd geiriau’r caneuon a’r gerddoriaeth yn barod i’w cyflwyno i’r Prifathro.

Rwy’n frwd dros ganu caneuon ac rwy’n credu bod cerddoriaeth mor rymus, ac yn ffordd wirioneddol effeithiol o gyfrannu at les plant.

Mae cydweithredu a llythrennedd yn gallu cysylltu’n hyfryd â cherddoriaeth, ac yn y sesiwn gallwn fynd i’r afael â phob mathau o bynciau, er enghraifft: gwrth-fwlio, yr amgylchedd a bwyta’n iach.

Prif ganlyniad y diwrnod yw dangos i blant eu bod yn gallu creu rhywbeth sy’n rhoi treftadaeth iddyn nhw.  Fe allai stori dda wedi’u sgrifennu yn eu llyfrau gael ei chanmol ar y diwrnod, ond os ydyn nhw wedi creu cân wirioneddol gampus, mae ganddi oes am flynyddoedd i ddod.  Mae beth rydym yn ei greu yn wirioneddol arbennig a heb ei ail.

Beth rwy’n dotio ato yw fy mod yn gallu mynd i ystafell sy’n llawn o blant rwyf heb eu cyfarfod erioed o’r blaen, meithrin perthynas â nhw’n syth a dod i ben y dasg o fewn amser penodol.   Rydym i gyd yn gadael yn llawn cyffro, dan sboncio drwy’r drws!   Mae’r plant yn methu credu beth maen nhw wedi’i greu ac mae ymateb yr athrawon bob amser yn ardderchog.

Does dim angen tamaid o brofiad cerddorol, a chan fy mod yn athro cymwys does dim angen i athro fod yn bresennol drwy gydol y gweithdy.”

Diolch Larry, sydd hefyd yn un o’n Hyrwyddwyr Celfyddydau campus.

Soniodd Larry wrthym hefyd am grŵp cefnogi o gyd-drefnwyr cerddoriaeth yn ardal De Cymru y mae’n rhan ohono

Byddem wrth ein boddau’n gwahodd aelodau newydd i’r grŵp.   Byddwn yn cyfarfod unwaith pob hanner tymor i gydweithio ac i rannu syniadau ac arfer gorau.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdy, neu’r grŵp, cysylltwch â Larry: mae’r manylion ar ei wefan http://thesongwritingdoctor.com/

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD