Mae gan Into Film ddiddordeb i glywed gan ymarferwyr creadigol sydd â diddordeb I gynnal gweithdai neu sesiynau ymarferol I gyd-fynd a dau ymgyrch bwysig I ni yn y flwyddyn newydd. Os hoffech chi ddatgan diddordeb I gynnal un o’r sesiynau hyn yna plis cysylltwch â non.stevens@intofilm.org a darparu’r wybodaeth isod
Enw, manylion cyswllt, math o weithdy – amlinelliad o’r cynnwys a gweithgareddau, prif amcanion – gan gynnwys nodi y cyswllt à’r cwricwlwm os yn bosib – y FfCD neu FfLC
Ry’n ni’n benodol yn chwilio am ymarferwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg ar gyfer y sesiynau ar gyfer hyrwyddo’n gwaith ar y cyd â’r Urdd ond croesewir syniadau gan ymarferwyd cyfrwng Cymraeg neu/ac Saesneg ar gyfer y prosiect Archif Môr ac Arfordir.
- Urdd Fel rhan o gystadleuaethau gwaith cartref yr Urdd ry’n ni’n cynnal dau gystadleuaeth adolygu ffilm- un wedi’I anelu ar fyfyrwyr CA2 ac yn at fyfyrwyr bl 7-9.
I gymryd rhan y mae’n rhaid iddyn nhw adolygu ffilm y meant wedi’I wylio yn eu clwb ffilm neu mewn sinema leol. Darperir cefnogaeth drwy gyfrwng adnodd ‘creu adolygiad cynhwysfawr’ ac y mae Into Film yn awyddus I gynnal taith o ysgolion/lleoliadau hefyd er mwyn hyrwyddo’r gystadleuaeth ymhellach.
Y nod yw targedu lleoliadau penodol : Wrecsam, Abertawe, Powys a Gwynedd. Byddwn yn cynnal dangosiadau o un o’r ffimilau isod ac yn cynnal gweithdy/sesiwn ar ôl y ffilm a fydd yn canolbwyntio ar themâu’r ffilm neu’n ysbrydoli’r myfyrwyr I ddeall neges y ffilm ymhellach. O ganlyniad, ry’n ni’n chwilio am ymarferwyr I ddarparu’r sesiynau creadigol ac ymarferol hyn a fydd yn ysbrydoliaeth I’r myfyrwyr I greu adolygiadau mwy diddorol wrth ddychwelyd I’r ysgol. Rhaid bo gyda chi DBS I weithio a phlant/phobl ifanc.
- Coastal Archive Tour – Celebrating ‘Year of the Sea’
Mae gan Archif Sgrin a Sain Cymru gasgliad gwych o ffilmiau archif am fôr ac arfordir Cymru. O fewn y casgliad ma yna gyfuniad o ffilmiau diddorol – rhai o Ynys y Barri yn ganol bwrlwm yr haf, rhai o ddiwrnod cychod achub yn Rhyl a clipiau o garnifal byrlymus yn Amlwch.
Mae Into Film yn awyddus I gynnal taith o leoliadau gwahanol – ysgolion neu sinemâu I ddangos y ffilmiau yma ac yn edrych am ymarferwyr creadigol I ddarparu sesiynau creadigol ac ysbrydoledig ar y thema môr neu’r arfordir. O ganlyniad, ry’n ni’n croesawi ceisiadau a syniadau am weithdai I’w cynnal yn yr ardaloedd dan sylw (Llandudno/Rhyl, Pwllheli, Ynys Mon, Sir Gar, Ceredigion, Y Barri a/neu Porthcawl).
Bydd angen targedu myfyrwry CA2 neu blynyddoedd 7-8 gan ffocysu ar y themau o fewn y ffilmiau. Gellir cynnal dangosiad o gyfuniad o’r ffilmiau neu 1-2 yn dibynnu ar gynnwys y sesiwn. Darperir gwybodaeth am bob ffilm ar y ddogfen amgaeedig a gellir darparu copiau o’r ffilmiau os fydd angen neu fel sbardun am drafodaethau a syniadau pellach.
Ry’n ni’n benodol yn chwilio am ymarferwyr sydd yn gallu hyrwyddo gwerth a phwer archif ffilm fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith creadigol a chelfyddydol amrwyiol ac hefyd yn awyddus I glywed gan arbenigwyr sy’n medru cynnal sesiynau yn dathlu gwerth a phwer archif ffilm ynghyd destun pwysigrwydd hanes leol a dathlu ein hunaniaeth leol.
Dylid anelu I gynnal sesiynau 60-90 munud o hyd ac ar leoliad ar sail trefniadau Into Film. Into Film fydd yn cydlynu ac yn trefnu’r digwyddiadau gyda’r ysgolion a’r lleoliadau.
Disgwylir I unrhyw ymarferwyr gal DBS cyfredol.