Cyfleoedd i rannu: arddangosfa celfyddydau ac addysg
Drwy’r dydd
14eg Chwefror
Does arnon ni ddim eisiau bod fel tôn gron, ond i’n tyb ni fe ddylech ddod i’r digwyddiad
yma yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd! CADWCH LE NAWR
Byddwn yn rhannu ac yn rhoi stondin i’n cariad at y celfyddydau ac addysg ar eu gorau.
Dosbarth Meistr Celfyddyd Gyfoes
09:30am – 15:30pm
dydd Mawrth 27ain Chwefror
Dewch at yr artist Holly Davey i ddiwrnod a’i lond o ystyried arfer celfyddyd gyfoes a
chysyniadol. Bydd y sesiwn yn chwilio gweithiau gan artistiaid cyfoes blaenllaw Cymru ac
yn rhoi lle i athrawon ddefnyddio celfyddyd gyfoes yn fan cychwyn amrywiaeth eang o
bynciau.
Bydd yma gyfle hefyd i weld arddangosfa gwaith James Richards yn Chapter. James oedd
cynrychiolydd Cymru yn Biennale Fenis eleni.
Mae celfyddyd yn sbarduno trafodaethau a chwestiynau sy’n agor meysydd dysgu i
ddisgyblion mewn ffyrdd newydd a hergar. Mae’r sesiwn yma’n agored i athrawon i gyd,
nid yn unig yr arbenigwyr hynny yn y celfyddydau gweledol neu fynegiannol. CADWCH LE NAWR
Cyflwyniad i recordio a’r stiwdio recordio
9.30am – 3.30pm
dydd Mawrth 27ain Chwefror
Bydd y diwrnod yn chwilio’r daith o’r ffynhonnell sain i’r corn sain a’r posibiliadau creadigol
sydd i’w chwilio ar y ffordd.
Amcan y digwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, yw eich
ysbrydoli, rhoi i chi ddealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion, y prosesau a’r agweddau
ymarferol ar recordio a chynhyrchu cerddoriaeth a rhoi cyfle i chi ddarganfod beth sy’n
ddichonol gyda chyllidebau ac adnoddau, o’r rheini sydd ar gael i’r cerddor pen stryd hyd
at y seren roc.
Cydweithrediad rhwng Ty^ Cerdd a Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Caerdydd a Bro
Morgannwg. CADWCH LE NAWR
Gweithio gyda Phethau, Dirgelwch, Rhyfeddod ac Athro-mewn- Rôl
9.30am – 4.30pm
dydd Iau 8fed Mawrth
Gan weithio gyda phethau caffael, stori bersonol, dirgelwch, ‘pryfocion’ sy’n codi
chwilfrydedd ac athro-mewn- rôl, bydd Louise Osborn yn dangos sut y gall y technegau
creadigol symlaf ddwyn manteision aruthrol i ddisgyblion o ran ysbrydoli cymryd rhan a’u
symbylu mewn tasgau sgrifennu a llafaredd. CADWCH LE NAWR
Dau Fyd – Un Bydysawd – digwyddiad cenedlaethol
Drwy’r dydd
Iau 15fed a Gwener 16eg Mawrth
Dewch heibio i’r digwyddiad cenedlaethol cyntaf gan rwydweithiau celfyddydau ac addysg
Cymru.
Mae’r digwyddiad yn dwyn ynghyd athrawon, artistiaid a hyrwyddwyr y celfyddydau o bob
cwr o Gymru a fu’n gweithio gyda’u rhwydwaith celfyddydau ac addysg lleol.
Mae gennym yn yr arfaeth raglen ddeuddydd ysbrydoledig a llawn mynd lle rhannir a
dathlir arfer, lle meithrinir perthynas newydd, lle bydd siaradwyr yn ysbrydoli ffyrdd newydd
o feddwl, a lle bydd cynlluniau am a ddaw yn ymffurfio.
Cylchredir y rhaglen a gwybodaeth ymarferol i gynadleddwyr yn ddiweddarach y mis yma.
Cofrestrwch nawr! Os oes gennych ragor o gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â
creativecollision@arts-active-trust.flywheelstaging.com
Gwneud Olion – Torri drwy Ofnau a Rhoi Gwerth ar Luniadu
10am – 3.30pm
dydd Mercher 21ain Mawrth
Bydd yr artist Catrin Webster yn arwain diwrnod o wneud olion a lluniadu sy’n agored i
athrawon i gyd, o bob disgyblaeth a phob lefel profiad lluniadu. Bydd y diwrnod yn
datblygu ac yn datgelu sgiliau’r cyfranogwyr eu hunain. Gyda’ch gilydd byddwch yn chwilio
rôl lluniadu, ei werth a’i bwysigrwydd ar draws y cwricwlwm.
Cydweithrediad rhwng Ty^ Cerdd a Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Caerdydd a Bro
Morgannwg. CADWCH LE NAWR