5 Ebrill 2018

Pawb yn ffoli ar A2: Clymu –  yr app newydd i ysgolion a’r celfyddydau

Dydd Gŵyl Sain Folant oedd y dewis i’r dim i’r Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg yng Nghanol De Cymru lansio ei app newydd ar y we – gan fod athrawon ac artistiaid yn ffoli ar ap A2: Clymu.

Mae’r teclyn ‘paru’ artistiaid ac ysgolion yn adnodd syfrdanol am ddim sy’n rhoi lle i bobl bostio a chwilio am gyfleoedd i gydweithredu.

Roedd y lansio’n rhan o Arddangosfa Celfyddydau ac Addysg, digwyddiad ar y cyd â Chanolfan Celfyddydau Chapter – gŵyl o ysbrydoliaeth a welodd athrawon ac artistiaid yn rhwydweithio, yn ymgysylltu, yn trafod ac yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau bywiog a gweithdai ymarferol.

Bwriwch olwg ar yr app, a phostio unrhyw gyfleoedd sydd gennych, drwy fynd i a2connect.org.  Mae’r app yn hawdd iawn ei ddefnyddio a byddwn yn mynd â chi bob yn gam drwy sut i’w ddefnyddio.

Cysylltwch ag artistiaid ac addysgwyr tan gamp heddiw!

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD