Recriwtio Hyrwyddwyr Celfyddydau
Mae A2 Clymu, Rhwydwaith Celf ac Addysg – Canol De yn chwilio am athrawon i ymuno â’n tîm o Hyrwyddwyr Celfyddydau i’r rhanbarth. Byddwn ninnau’n rhoi cyllid i ysgolion i ymorol am ryddhau un o aelodau eu staff am gyfnodau byr i hyrwyddo arfer gorau ym maes dysgu’r celfyddydau’n greadigol, hyfforddiant cymar â chymar, mentora a phleidio gweithio gydag artistiaid yn yr ystafell ddosbarth. Yn ystod eu cyfnod yn Hyrwyddwyr Celfyddydau fe’u hanogir i ddatblygu eu harbenigedd eu hunain drwy fynd i ddigwyddiadau, ac ymweliadau astudio.
Gallai ymgeiswyr fod yn athrawon cymwys neu gynorthwywyr dysgu ac mae’n rhaid iddynt fod yn awyddus i rannu eu creadigedd, eu sgiliau, eu profiad, eu harbenigedd ac yn anad dim eu brwdfrydedd ag athrawon ac ysgolion eraill.
Mae disgwyl i bob hyrwyddwr ymrwymo i’r cynllun am flwyddyn o leiaf, ar ôl y fan honno fe’u hanogir i ddal i gyfranogi a bod yn rhan o’r rhwydwaith a’i ddigwyddiadau cysylltiedig a, lle bo modd, rhoddir cyllid a chefnogaeth ond does dim sicrwydd o hyn.
Pam mynd yn Hyrwyddwr Celfyddydau?
Mae yna fanteision lawer yn deillio o fod yn Hyrwyddwr Celfyddydau, gan gynnwys: .
- Paratoi eich tîm ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru
- Ehangu gwybodaeth a phrofiad
- Dod â syniadau a ffyrdd o weithio newydd i’ch ystafell ddosbarth a’ch ysgol
- Potensial ymgysylltu â chynllun gwella ysgolion
- Darparu hyfforddiant mewnol ar gyfer eich cydweithwyr
- Calonogi a gwella gyrfaoedd
- Ni fydd eich ysgol yn mynd i unrhyw gost am yr holl fanteision uchod.
Os ydych chi neu un o’ch cydweithwyr yn ymddiddori mewn mynd yn Hyrwyddwr Celfyddydau defnyddiwch y ddolen isod i fynd i’n ffurflen gais ar-lein.
ar gyfer ffurflen gais ar-lein cliciwch yma
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Llun 18 Mehefin.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun Hyrwyddwyr Celfyddydau cysylltwch â bryony@arts-active-trust.flywheelstaging.com