Pam y dylech chi ystyried mynd yn Hyrwyddwyr Celfyddydau
Gwelodd eleni gynllun Pencampwyr Celfyddydau A2 Clymu yn datblygu ac yn cyflenwi cyfoeth o fanteision i ysgolion, athrawon a’r Hyrwyddwyr Celfyddydau eu hunain.
Mae Larry Williams yn Hyrwyddwyr Celfyddydau o Ysgol Gynradd Rhydypenau ac mae’n sôn yma am y manteision ddaeth i’w ysgol ei hun yn sgìl bod yn rhan o’r cynllun (gan Tantrwm Limited yn Vimeo).
Dyma beth fu hanes ein Hyrwyddwyr Celfyddydau eleni:
- Cawsant eu cefnogi i fynd i hyfforddiant ynghlwm â diwydiant mewn meysydd diddordeb arbennig i ddatblygu eu sgil eu hunain ac i drosglwyddo’r dysgu i’w cydweithwyr
- Buont yn traddodi hyfforddiant HMS i’w cymheiriaid yn yr ysgol ac mewn sesiynau ledled clystyrau
- Cydnabuwyd eu gwaith yng nghyd-destun adroddiadau Arolygu Estyn
- Cawsant y cyfle i weithio gydag artistiaid a pherfformwyr i gynghori a chefnogi ym maes datblygu gwaith mewn ysgolion ac iddynt