A chithau’n artist, fe wyddoch o’r gorau fod eich gwaith yn gallu bod o fudd i sgiliau llythrennedd a rhifedd plentyn.
Ond sut mae argyhoeddi ysgol mai beth rydych chi’n ei wneud ydi’r union beth sydd arni ei angen?
Lle campus i roi cychwyn arni yw gwefan Celc lle cewch chi ddolennau buddiol a chanllawiau ymarferol yn gymorth i chi weithio gydag athrawon i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd y disgyblion, a chefnogaeth yn gymorth i chi gymryd pob un o’r camau sy’n dilyn:
1 Ymchwilio i’r cwricwlwm a thystiolaeth am y celfyddydau
Cyn i chi wneud dim, gwneud eich ymchwil fel eich bod chi’n deall gofynion yr ysgol a’ch bod yn deall eich gilydd.
- Cael gwybod am nodweddion allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a beth yw lle’rcelfyddydau, llythrennedd a rhifedd yn y drefn.
- Ymgynefino â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.
- Bwrw golwg ar raglen y llywodraeth, sef dysgu Creadigol drwy’r celfyddydau, gan mai’r rhaglen yma o bosib fydd yn cyllido peth o’ch gwaith.
Ymorol bod gennych wybodaeth am werth ac effaith y celfyddydau – mae yna ddolennau ar gyfer ‘Pledio achos y celfyddydau’ yn yr adran ‘Sut i weithio gydag ysgolion’ ar y wefan.
2 Meddwl am eich cynnig o safbwynt anghenion ysgolion
Cychwyn gan ddal hyn mewn cof, ac os oes gofyn, meddwl yn greadigol ynghylch y posibilrwydd y bydd gofyn i chi addasu beth rydych yn ei wneud.
Mae gan bob ysgol gynllun sy’n datgan ei blaenoriaethau strategol. Yn ôl pob tebyg bydd y rhain yn cynnwys gwaith yn ymwneud â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion grwpiau penodol o ddisgyblion (e.e. myfyrwyr dan anfantais, Mwy Abl a Thalentog (MAT)).
Os na fydd eich galwad, eich e-bost neu eich llythyr cyflwyno yn ‘gwerthu’ eich cynnig iddyn nhw mewn modd sy’n cyd-daro, efallai nad ewch chi ddim pellach na’r derbynnydd.
3 Ar bwy y galwch chi? A2: Clymu!
Ewch at app A2: Clymu i weld pa gyfleoedd sy’n cael eu postio – a meithrin perthynas ag athrawon sy’n defnyddio’r app i ddod âphrosiectau creadigol i’w hysgolion.
Gallech hefyd feddwl am siarad yn uniongyrchol â rhywun mewn ysgol. Yn hytrach na mynd at y prifathro, fe allai cysylltu â’r cydlynydd pwnc fod yn gynt ac yn fwy effeithiol. Mae adran cysylltiadau gwefan Celc yn cynnwys cyngor rhagorol yn ogystal â rhestr y mathau o gysylltiadau y gallech fynd atynt.
4 Paratoi ar gyfer cyfarfod cyntaf campus
Unwaith y byddwch wedi trefnu cyfarfod, paratoi piau hi (gweler 1 uchod). Holi cymaint ag y gallwch chi ynghylch yr ysgol – yr ardal mae ynddi, ac unrhyw heriau neilltuol. Hwyrach bod eich sgwrs gychwynnol wedi rhoi dirnadaeth i chi o sut y mae eich gwaith yn cyd-fynd â chynlluniau’r ysgol neu’r athro ond os naddo, dyna’r peth cyntaf y bydd gofyn i chi ganolbwyntio arno yn y cyfarfod.
Cofiwch drafod achosion ymarferol megis amddiffyn plant, datgeliad manylach, iechyd a diogelwch, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac unrhyw bolisïau perthnasol eraill sydd gan yr ysgol.
5 Taro’r fargen: y briff / cytundeb
Yn dilyn y cyfarfod, drafftio brîff y prosiect, llythyr neu gytundeb sy’n amlinellu manylion, cyfrifoldebau, ac amodau allweddol y prosiect.Mae’n werth chweil i chi roi o’ch amser i wneud hyn i’r dim.