Wnaethoch chi erioed weld neu greu Cyfle gwych ym maes y Celfyddydau ac Addysg ar app A2:Clymu ac arnoch eisiau ei rannu â phobl eraill? Hyd yn hyn, bu hynny’n bur anodd am na doedd dim modd i bobl eraill edrych ar Gyfle onibai bod ganddyn nhw gyfrif ac wedi’u mewngofnodi yn yr app.
Ond erbyn hyn… ‘tantarâ!’ – mae rhannu yn y cyfryngau cymdeithasol bellach ar gael ar app A2:Clymu A2: Connect app.
Gyda chlic eicon gallwch rannu unrhyw gyfle â’ch rhwydweithiau, neu gopïo URL cyfle neilltuol, yn y fan a’r lle.
Mae’n gweithio gyda Facebook, Twitter, a LinkedIn – a gallwch hefyd glicio’r botwm gwyrdd i gopïo’r ddolen yn y fan a’r lle a’i rhannu mewn mannau eraill.
I ni yn A2:Clymu, gwneud eich bywyd chi’n haws piau hi, pa un a ydych chi’n artist, yn gorff yn y celfyddydau, yn athro neu’n gorff addysg.
Oes yna unrhyw beth arall a’i gwnâi’n haws i chi gysylltu ag artistiaid neu athrawon? Oes gennych unrhyw syniadau o ran gwella beth wnawn ni? Rydym yn glustiau i gyd – rhowch wybod i ni yn y sylwadau isod.