5 Medi 2018

Pam y gallai cael gan eich disgyblion ddawnsio fod yn bwysicach nag a feddyliech chi

Pa ddelweddau sy’n mynd drwy’ch meddwl chi pan fyddwch chi’n meddwl am ddawns?

Fel y mae’r ddwy ferch ifanc yn y fideo’n dweud, ffurf ar symud yw dawns sy’n helpu pobl i “synhwyro a deall y byd o’u cwmpas, i gyfathrebu …, i brofi, a dim ond i fod.”

Ac os yw hynny i gyd i’w glywed braidd fel ‘rwdl-mi-ri Oes Newydd’, a siarad yn fwy ymarferol mae’n gallu helpu disgyblion mewn nifer o ffyrdd. Maen nhw’n gallu meithrin ymwybyddiaeth o’u hunain a’u cyrff, magu hyder a hunan-dyb, rheoli straen, meithrin derbyn eu hunain a’u cyrff, a dysgu gweithio gyda phobl eraill. Felly gallai dysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau hynny ym more oes fod yn newid byd i lawer o ddisgyblion.

Awgrym: gwyliwch y fideo 5.45 munud o’r dechrau, 11 munud o’r dechrau, a 19.11 munud o’r dechrau, i weld ymarferion symud y gallech roi cynnig arnyn nhw gyda’ch dosbarth

Mae Dawns Rubicon, sydd â’i ganolfan yn Stryd Nora, Caerdydd, yn arbenigwyr mewn galluogi pobl ifanc i gyd i ddawnsio. Eu ‘harf cyfrinachol’ yw nad ‘athrawon dawns’ mohonyn nhw fel y cyfryw – ond artistiaid cymuned, yn cymell syniadau creadigol pobl, ac yn eu defnyddio’n sylfaen, ac yn rhoi’r un faint o flaenoriaeth i ganlyniadau cymdeithasol/personol, ochr yn ochr â dysgu sgiliau ffurf ar gelfyddyd.

Cawsom air â Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon, i gael gwybod sut y gallan nhw helpu athrawon ac ysgolion:

Beth sydd mor wych ynghylch dawns?

Dawns yw’r unig ffurf ar gelfyddyd sy’n bobl drwyddi draw, heb fod arni angen dim byd arall. Mae fy mab, ‘glas laslanc’, yn credu bod pawb yn dawnsio rownd y rîl a phobl heb fod yn sylweddoli hynny!

Mae hynny’n beth da i’w gofio – mae gennym i gyd ein hiaith corff ein hunain, ac felly mae pawb yn gallu dawnsio. Mae gofyn i ni roi o’r neilltu ein syniadau sefydlog ynghylch pwy sy’n gwneud dawns, ymhle mae’n digwydd, sut y mae’n digwydd.

Mae dawns ar y cwricwlwm, yn rhan o ymarfer corff, ond i’m tyb i mae yna lawer o ysgolion sydd heb fod yn ei wneud efallai oherwydd eu bod yn teimlo diffyg hyder – a dyna’n lle ni.

I ddisgyblion, mae sesiwn ddawns yn fan yn ystod yr wythnos lle gallan nhw ddefnyddio’u dychymyg. Maen nhw hefyd yn gallu dysgu sgiliau bywyd pwysig – datrys problemau, meddwl creadigol, a chydweithio’n ddechau â’u cymheiriaid. Mae yna elfen o les hefyd – nid yn unig corfforol, ond hefyd hyder, hunan-dyb a lles emosiynol.

Ac mae’n neilltuol o fuddiol pan fydd gofyn goresgyn rhwystrau fel iaith – er enghraifft, os oes yna lawer o wahanol ieithoedd cartref neu os oes gan ddisgyblion anghenion ychwanegol, neu ddim ond arddulliau dysgu amrywiol.

Os bydd ysgol yn ymddiddori mewn cyflwyno dawns i’w disgyblion, sut y gallwch chi helpu?

Gallwn gynnig naill ai amser cwricwlwm rheolaidd neu sesiynau dawns ar ôl ysgol, yn ogystal â phrosiectau a gweithdai arbennig untro.

Byddwn bob amser yn cychwyn â chyfarfod â’r ysgol i gael gwybod beth sydd arnyn nhw’i angen, beth yw eu syniadau a’u heriau, ac wedyn gweithio allan gyda’n gilydd beth fyddai’n gweithio orau a pha ganlyniadau sydd arnom eisiau eu cyflawni. Felly mae pob rhaglen mwy na heb wrth fesur.

Pa fath o raglenni allai ysgol ddisgwyl i chi eu datblygu iddyn nhw? 


Rydym yn gallu datblygu rhywbeth o gwmpas diddordebau’r ysgol a’r disgyblion, dyfeisio rhaglenni o gwmpas thema neilltuol o’r cwricwlwm, neu greu rhywbeth i fynd i’r afael â heriau neu sefyllfaoedd penodol – er enghraifft, os oes gan yr ysgol broblem bwlio neu gydweithredu rhwng plant; neu os yw’r disgyblion yn siarad amrywiaeth o ieithoedd neu os oes ganddyn nhw anghenion ychwanegol. Mae dawns yn gynhwysol iawn ac yn gyfrwng tan gamp i oresgyn rhwystrau lawer.

Beth mae sesiwn ddawns nodweddiadol mewn ysgol yn ei olygu?

Wel, nid bwrw iddi ar ein pennau a dechrau ceisio dysgu arddulliau dawns neilltuol raid chi’m peryg! Rydym yn gweithio’n greadigol gyda’r bobl ifanc.

Felly fe gychwynnwn ni ag orig ystwytho, ac wedyn cael gan bobl symud. Fe allai hynny olygu chwaraeon creadigol … o’r braidd y mae pobl yn sylweddoli eu bod yn dawnsio! Os oes yna thema fe allem roi thema i’r chwaraeon. Wedyn maen nhw’n cael cynnig eu symudiadau creadigol eu hunain, fe allem sefyll mewn cylch ac wedyn mynd o gwmpas yn trosglwyddo symudiadau o gwmpas ac mae’r rhain yn gallu bod yn syml iawn. Wedyn efallai bod yna thema mae arnom eisiau ei chwilio, fel noson Guto Ffowc neu’r Rhufeiniaid neu ryw agwedd arall ar y cwricwlwm.

Wedyn o dipyn i beth mae’r disgyblion yn cael creu eu deunydd eu hunain ar eu pennau’u hunain neu mewn grwpiau bychain, ei ymarfer, gweithio allan y dawnsiau, wedyn ar ddiwedd y dosbarth yn cael rhannu a lleisio’u barn wrth ei gilydd, wedyn mae’r dosbarth yn dod i ben ag orig oeri.

Byddwn bob amser yn gofyn i athrawon a’u cynorthwywyr fod yn bresennol yn ein sesiynau. Weithiau maen nhw’n ymuno, ond does dim rhaid iddyn nhw Gallwn redeg datblygiad proffesiynol parhaus os yw hynny o ddiddordeb.

Beth ydi hyd y rhaglenni?

Gallwn ddod i mewn i wneud gweithdy untro, sesiynau wythnosol am dymor neu flwyddyn academaidd, neu hwy hyd yn oed. Rydym yn rhedeg sesiynau wythnosol yn Ysgol Gynradd Adamsdown ers deunaw mlynedd ar hugain! I’n tyb ni dyma’r ddarpariaeth ddawns ddi-dor hwyaf mewn ysgol yng ngwledydd Prydain – ond byddai’n ddiddorol gennym glywed gan rywun sy’n gwybod yn well!

Byddwn hefyd yn cynnal gŵyl ddawns flynyddol i ysgolion yn Neuadd Dewi Sant. Eleni roedd yn cynnwys pedair ysgol a thrigain a gwerthodd y tair noson bob tocyn! Rydym yn dotio ati, am mai pobl ifanc yn ysbrydoli pobl ifanc piau hi.

Beth sy’n ddihafal ynghylch beth wnewch chi?

Yn gyntaf, rydym yn dod o safbwynt celfyddydau cymuned ac felly hwyluso creadigedd y disgyblion piau hi yn hytrach na dysgu iddyn nhw arddulliau dawns neu ddawnsiau neilltuol.

Yn ail, dyw’n hymarfer ni fyth yn sefyll yn stond. Rydym yn rhagori ar dorri tir newydd ac mae hynny’n dylanwadu ar yr ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw, a’r disgyblion. Mae meddwl creadigol i’w gael ym mhopeth wnawn ni, a’r ffordd rydym yn meddwl ac yn gweithio.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar sut y byddwn yn gweithio yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru, yn integreiddio dawns ar draws y cwricwlwm cyfan. Felly ym mis Medi, rydym yn gweithio gydag un ysgol i fwrw golwg ar sut y gallwn ddefnyddio dawns y tu allan i wers ddawnsio – a bydd gennym ryddid i arbrofi, cyn i ni ei dreiglo i ragor o ysgolion.

Y peth arall sy’n ddihafal yw ein bod yn cynnig i ddisgyblion ffyrdd eraill o ymhél â dawns y tu allan i’r ysgol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau i bobl ifanc drwy’r wythnos yn ein canolfan. Ac wedyn mae gennym ddosbarthiadau mewn lleoedd eraill fel Glan yr Afon, Casnewydd a Phafiliwn Penarth. Ymhen amser, yn dilyn ymgyrch fawr codi arian, byddwn yn cynnig dosbarthiadau ar safle Llyfrgell y Rhath, Heol Casnewydd, rydym newydd ei gymryd drosodd.

Os ydyn nhw’n wirioneddol frwdfrydig, rydym yn cynnig ffyrdd dilyniant pellach megis ein grwpiau perfformio ieuenctid, ac wedyn ein cwrs dawns BTEC llawn-amser.

Ffotograffydd: Sian Trenberth.

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD