Rydym bellach wedi rhoi ein digwyddiadau dysgu proffesiynol a rhwydweithio ar Facebook! Felly gallwch weld ar gip be sydd ar ddod, rhoi gwybod i bobl eich bod ‘â diddordeb’ neu ‘yn mynd’, cael gwybod pwy arall fydd yno ac yn bwysicaf oll, cadw lle!
Mae ein digwyddiadau i gyd am ddim ac rydyn ni’n talu am athrawon cyflenwi, be allai fod yn brafiach!?*
Bwriwch olwg ar ein Hadran Digwyddiadau Facebook
* Mae hyn yn berthnasol i athrawon o ysgolion yn rhanbarth Canol y De, hyd at £150 y diwrnod cyflawn.