9 Hydref 2018

Cyfarfodydd Cymdeithasol Rhwydweithio Athrawon  

Lord of the Flies CardiffCyfarfodydd Cymdeithasol Rhwydweithio Athrawon  

Dydd Iau 25 Hydref 6.30pm-10pm

Dyma’r cyntaf o Aduniadau Rhwydweithio Athrawon A2:Clymu ar gyfer 18/19. Mae’r aduniadau yma’n ffordd dan gamp o gyfarfod, sgwrsio a chael blas ar ddigwyddiad mewn amgylchfyd diwylliannol anffurfiol. Beth am ddod aton ni i’r cyd-gynhyrchiad yma rhwng Theatr Sherman a Chlwyd Theatr Cymru am hanner awr wedi chwech am ddiod a sgwrs cyn y sioe. Bydd y perfformiad yn cychwyn am hanner awr wedi saith.

Bydd yna hefyd drafodaeth panel ar ôl y sioe a bryfocir gan y themâu’n deillio o’r cynhyrchiad, yng nghwmni:

Jesse Briton – Cyfarwyddwr Cynorthwyol y cynhyrchiad

David Mellor – Uwch-ddarlithydd Polisi Cymdeithasol (Materion Rhyngwladol) Prifysgol De Cymru

Barbara Hughes Moore – O Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Timothy Howe – Cydlynydd Cymunedau ac Ymgysylltu (Cadeirydd)

Cliciwch yma i gadw eich tocynnau AM DDIM i weld Lord of The Flies. Bydd gofyn i chi ddefnyddio’r cyfrinair canlynol: LOTF18 i gyrchu’r digwyddiad ar eventbrite.

Dim ond pymtheg o lefydd sydd ar gael a dim ond un tocyn yr athro, i bob ysgol. Unwaith y byddwch chi wedi cadw eich tocyn fe gewch e-bost yn cynnwys gwybodaeth fanylach a phecyn addysg i chi a’ch disgyblion.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD