28 Tachwedd 2018

Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru yng Nghwricwlwm Cerddoriaeth TGAU 25/1/19

Cliciwch yma i archebu eich tocyn am ddim trwy eventbrite

dydd 25 Gwener Ionawr 2019 | 10:00 – 15:30 Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Mewn oes pan fo cymaint o rym i amrywiaeth ddiwylliannol, mae llawer yn ystyried ei bod yn hollbwysig dysgu am draddodiadau a cherddoriaeth frodorol y wlad lle’r ydych yn byw. Mae’r sesiwn dysgu proffesiynol undydd yma’n adnodd rhagorol, nid yn unig er mwyn dysgu am y traddodiadau hyn ond hefyd yn fan cychwyn dysgu peth o gwricwlwm Cymru a maes llafur TGAU yn gyffredinol. Mae yna fwy fyth o ddolennau â Bagloriaeth Cymru y gallai addysgwyr eu chwilio.

Amcan y cyrsiau diwrnod hyn yw rhoi i chi strategaethau a syniadau newydd i’w dwyn i’ch canlyn yn ôl i’r ystafell ddosbarth. Dan arweiniad artistiaid sy’n arfer eu crefft a chanddynt wybodaeth benodol am y celfyddydau mewn cyd-destunau addysgol, mae pob diwrnod yn cyfuno arfer ymarferol a gweithredol yn ogystal â’r cyfle i rannu a rhwydweithio ag athrawon, cydweithwyr ac artistiaid eraill.

a2connect.eventbrite.co.uk

Llun: Diolch am Trac

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD