Gallwch arbed amser, cael y cyfleoedd mwyaf perthnasol a rhoi lle amlycach i’ch proffil o ganlyniad i newidiadau yn A2:Clymu. Os oes arnoch eisiau elwa ar hyn, mae yna ambell i beth bach sydyn mae gofyn i chi’i wneud – ond bydd hynny’n waith llai na munud!
Be sydd wedi digwydd?
Mae ymateb gan bobl fel chi’n golygu bod swyddogaeth ‘paru’ A2:Clymu yn datblygu byth a hefyd i roi i chi be sydd arnoch eisiau, yn gyflym. Y newid diweddaraf yw ein bod newydd ddiweddaru’r ffordd mae ‘lleoliad’ yn gweithio ac wedi creu tudalen ‘pobl’ newydd amlwg ei lle.
Pam dylech chi falio a be ddylech chi’i wneud?
Ers ein diweddariad diwethaf, bob tro’r ewch chi i adran gyfleoedd y safle, mae’r cyfleoedd a restrir yn nhrefn eu blaenoriaeth, a’r rheini sydd fwyaf perthnasol i chi ar y brig (h.y. yn ôl eich rolau, eich arbenigedd, eich ffurf ar gelfyddyd, cyfnod allweddol y disgyblion rydych yn eu dysgu, etc)*
Bellach, bydd hefyd yn cyflwyno cyfleoedd yn ôl eu lleoliad – ond bydd gofyn i chi fewngofrestru a golygu eich cyfle i nodi ym mha sir yng Nghymru y mae (gallwch ddewis mwy nag un os oes gofyn).
O ran ein tudalen ‘pobl’ newydd, mae gofyn i chi hefyd roi gwybod i ni a oes arnoch eisiau i’ch llun a/neu ychydig o fanylion sylfaenol gael eu dangos.
Gallwch ddiweddaru’r ddau o fewn llai na munud!
Be mae gofyn i chi’i wneud? Bydd hyn yn waith llai na munud i chi:
- Mewngofrestru yn y safle a mynd at eich proffil (ar y top ar y dde).
- Cliciwch ar Fy nghyfleoedd > Rheoli (ar un o’r Cyfleoedd) > Golygu
- Cofiwch ymorol eich bod wedi clicio’r dewis ‘Pwy rwyf am eu gweld yn ymateb’ (h.y. y rôl)
- Cliciwch y botwm nesaf nes i chi gyrraedd ‘Lleoliad’
- Dewiswch un neu ragor o’r siroedd ar y rhestr
- Cliciwch nesaf hyd nes i chi gyrraedd y diwedd, wedyn gwnewch yn siwr ei fod wedi’i gyhoeddi os oes arnoch eisiau iddo fod yn fyw ar y safle
- Ewch yn ôl i’ch proffil a’r tab ‘Amdanaf Fi’, a dewiswch ‘Cyhoeddi’ os ydych am eich gweld yn y cyfeirlyfr ‘Pobl’
Be os na wna’ i hyn?
Efallai na chaiff eich cyfle ei weld gan y bobl rydych chi am iddyn nhw’i weld; ac efallai na chewch y siawns i gysylltu â rhywun creadigol sydd i’r dim i’ch ysgol a’ch disgyblion chi; neu ag ysgol sydd ar drywydd ymarferwr creadigol yr un ffunud â chi.
*Bydd yn golygu na fydd gofyn i chi bellach ddefnyddio’r hidlyddion ar ochr chwith y dudalen (ond gallwch ddefnyddio ‘chwiliad uwch’ os oes arnoch eisiau diystyru trefnu awtomatig eich system).