29 Ionawr 2019

Bywyd Dirgel Pethau 13/3/19

i Athrawon Cynradd ac Uwchradd

Cliciwch yma i archebu eich tocyn am ddim trwy eventbrite

dydd Mercher 13 Mawrth | 10:00 – 15:00 Amgueddfa Straeon Caerdydd

Amcan y cwrs yma yw dangos i athrawon sut i ddefnyddio pethau mewn casgliadau amgueddfeydd i ddatblygu cyfleoedd dysgu creadigol ac ar draws y cwricwlwm, yn ystod ymweliadau disgyblion ac yn yr ystafell ddosbarth fel ei gilydd

Yn ystod y diwrnod fe ddysgwch dechnegau ymarferol ar gyfer defnyddio eitemau casgliad gan gynnwys pethau, lluniau a dogfennau i ysbrydoli cynnyrch creadigol ar hyd ac ar led amrywiaeth o feysydd pwnc. Ar ddiwedd y diwrnod bydd gennych nifer o syniadau ac adnoddau i’w dwyn yn ôl i’r ystafell ddosbarth i’ch canlyn. Darparir yr holl ddeunyddiau.

Amcan y cyrsiau diwrnod hyn yw rhoi i chi strategaethau a syniadau newydd i’w dwyn i’ch canlyn yn ôl i’r ystafell ddosbarth. Dan arweiniad artistiaid sy’n arfer eu crefft a chanddynt wybodaeth benodol am y celfyddydau mewn cyd-destunau addysgol, mae pob diwrnod yn cyfuno arfer ymarferol a gweithredol yn ogystal â’r cyfle i rannu a rhwydweithio ag athrawon, cydweithwyr ac artistiaid eraill.

Mae llefydd ar y cwrs am ddim i’w cadw a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod, drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £150 y diwrnod.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD