Ydych chi’n gerddor, yn artist gweledol, yn ddawnsiwr neu’n actor; yn grefftwr, yn ddatblygwr digidol, yn adroddwr straeon neu’n awdur; yn fardd, yn gyfansoddwr caneuon, yn dechnolegydd chwarae gemau neu’n berfformiwr syrcas; neu’n unrhyw fath arall o ymarferwr creadigol yn gweithio mewn ysgolion? Neu ydych chi’n rhedeg corff sy’n lleoli creadigolion mewn ysgolion? Fyddwch chi weithiau’n teimlo braidd yn unig neu’n teimlo y byddai’n dda gennych wybod tipyn mwy am sut mae ymarferwyr eraill yn gweithio? Dewch i’n Grŵp Dysgu chwarterol – mae’r nesaf nos Lun 11 Chwefror, o bump tan saith o’r gloch yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd.
Byddwch yn gallu cyfarfod addysgwyr creadigol eraill; rhannu profiadau a gwybodaeth; cael gwybod sut i dyfu eich gwaith a’ch rhwydwaith; trafod pwnc neilltuol. Bydd Yvonne Murphy o Omidaze Productions (hefyd yn un o artistiaid cyswllt Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Iolo), gyda ni i sôn am bartneriaethau a chydweithrediadau – sut mae cael hyd i’r bobl iawn i weithio gyda nhw a sut mae partneru â chyrff?
Cofiwch ddod – rydyn ni’n gyfeillgar a byddem wrth ein boddau’n eich cyfarfod!
Os na allwch ddod i hwn, mae yna ddigwyddiadau hefyd: nos Lun Mai 13 a nos Lun Gorffennaf 15, yr un awr a’r un lle.
I gadw lle ewch i’n tudalen Eventbrite.
Yn y cyfamser, dyma ambell i bost blog ac adnoddau i godi awch arnoch chi – rhowch wybod i ni os gwyddoch chi am eraill y gallwn eu hychwanegu at y rhestr yma!
Celc
Mae gan y Pecyn Gwaith ar-lein yma syniadau, dolennau defnyddiol ac arweiniad ymarferol i helpu artistiaid i helpu athrawon gwrdd â gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
http://celc.celf.cymru/artists/artists-intoduction/
Pecyn Gwaith Artistiaid ArtWorks Cymru – i artistiaid cyfnod cynnar
https://artworks.cymru/Artist-and-Partner-Toolkit-Towards-Creative-Partnerships
FIDEO gan Artworks Cymru – creu partneriaethau arloesol
https://artworks.cymru/ArtWorks-Cymru-Conference-Keynote-Einir-Sion
Llyfrgell adnoddau partneriaethau gan A New Direction
https://www.anewdirection.org.uk/powerful-partnerships-resource-library
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.