Sut mae gwrthrychau’n gymorth i’ch disgyblion gael pen llinyn ar y byd, gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol oesoedd a’n hoes ein hunain, dod i ddeall mwy am wahanol ddiwylliannau, ac ysbrydoli eu creadigedd a’u syniadau?
Yn hawdd iawn, â thipyn bach o gymorth gennych chi! Gall disgyblion chwilio creadigedd a dyfeisgarwch pobl yr oesoedd o’r blaen, rhyfeddu at newidiadau technolegol, deall yr achosion, a’r cwbl drwy ystyried beth yw gwrthrych mewn amgueddfa (neu unrhyw wrthrych), sut mae’n cael ei wneud, sut olwg sydd arno a sut roedd yn cael ei ddefnyddio.
Mae dysgu creadigol gan ddefnyddio gwrthrychau hefyd yn rhoi lle i ddisgyblion:
- holi a herio
- gwneud cysylltiadau a gweld perthynas gwahanol bethau
- dychmygu beth allai fod/ beth allasai fod
- chwilio syniadau newydd, cadw pob drws ar agor
- myfyrio’n feirniadol ynghylch syniadau, gweithredoedd a chanlyniadau
Mae dysgu ar sail gwrthrychau yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu:
- gwybodaeth – cofio, adrodd, rhestru
- dealltwriaeth – crynhoi, egluro
- cymhwyso – trosglwyddo gwybodaeth o’r naill sefyllfa i’r llall
- dadansoddi – categoreiddio, cymaru a chyferbynnu
- cyfosod – damcaniaethu, rhagweld, dyfeisio a chyfansoddi
- pwyso a mesur – barnu, dod i gasgliadau, cadarnhau, amddiffyn
Gewch wybod sut i roi hyn ar waith yn eich ystafell ddosbarth drwy:
Archebu lle yn nigwyddiad Bywyd Dirgel Pethau ddydd Mercher 13 Mawrth, o ddeg o’r gloch tan hanner awr wedi tri yn Amgueddfa Stori Caerdydd.
Llwytho i lawr yr adnodd Bywyd Cyfrinachol Gwrthrychau AM DDIM o Hwb.
Mae llefydd ar y cwrs am ddim i’w cadw a bydd y rhwydwaith yn eich noddi i ddod, drwy gefnogi cost staff cyflenwi hyd at £150 y diwrnod.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.