25 Mawrth 2019

Cymorth a chyngor ar gyfer arwain côr ysgol neu grŵp lleisiol – a Dosbarth Meistr Arwain Corawl, 17/7/19, Caerdydd

Ydych chi’n arwain côr neu grŵp lleisiol, ond heb fod yn siwr a ydych yn ei wneud ‘yn iawn’? Ydych chi’n weddol hyderus ond yn teimlo awydd mynd â’ch côr ymlaen at y safon nesaf? Fe gewch chi ddigonedd o help yn ein Dosbarth Meistr Arwain Corawl ddydd Mercher 17 Gorffennaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Ond os na allwch ddod i hwnnw, rydym wedi casglu ynghyd ychydig o adnoddau y gallech eu cael yn fuddiol – yn ogystal â meddyliau ynghylch manteision côr ysgol/grŵp lleisiol, rhag ofn bod gofyn dwyn perswâd ar eich tîm arwain!

Gwefannau ac adnoddau buddiol ar gyfer rhedeg côr ysgol neu grŵp lleisiol

Sing Up, mae’n debyg, yw’r adnodd canu mwyaf adnabyddus yng ngwledydd Prydain. Mae ganddo lond gwlad o adnoddau, rhai i dalu amdanyn nhw, rhai am ddim. Dyma rai o’u hadnoddau am ddim:

Total Choir Resources sef gwefan wych i helpu arweinwyr corau, ar ba safon bynnag. Ar gyfer corau cymuned yn hytrach na chorau ysgol y mae hwn ond mae llawer o’r cynnwys yn berthnasol i ysgolion. Mae yna lond gwlad o adnoddau am ddim yn cynnwys lawrlwythiadau, blogiau, podlediad a chymuned Gweplyfr am ddim hefyd.

The Voices Foundation – sy’n gweithio mewn ysgolion, ac yn darparu adnoddau megis llawlyfrau athrawon, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi.

Mae gan y blog yma ar wefan TES – How I teach – a school choir sets the tone – gyngor a dolennau buddiol.

Os ydi’n well gennych gael eich dysgu’n fyw, dewch i’n …

Dosbarth Meistr Arwain Corawl AM DDIM, 17/7/19 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

I bwy mae hwnnw?

Unrhyw un sy’n arwain côr neu grŵp lleisiol mewn ysgol, pa un a ydych chi’n ddechreuwr ynteu’n fwy profiadol. Bydd gofyn i chi fod yn gallu darllen cerddoriaeth, ond fe gewch gyfle i fwrw golwg ar y darnau cyn y diwrnod fel y gallwch baratoi. 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu a’i wneud

  1. Byddwch yn gwella eich arfer proffesiynol ac yn dysgu strategaethau newydd arwain canu grŵp mewn awyrgylch cefnogol a chalonogol, dan arweiniad yr arweinydd côr arobryn, Susan Hollingsworth*.
  2. Byddwch yn meithrin hyder fwyfwy drwy’r dydd.
  3. Os ydi hyn yn newydd i chi, fe ddysgwch arwyddion arwain sylfaenol i roi cynnig arnyn nhw gyda’ch grwpiau.
  4. Os ydych yn fwy profiadol, fe gewch gyfle i arwain corws o’r radd flaenaf a chael adborth ac awgrymiadau buddiol o ran cyfarwyddo corau.
  5. Fe gewch awgrymiadau buddiol ynghylch sut i baratoi sgôr leisiol yn fanwl; syniadau o ran yr orig gynhesu ac ymarferion datblygu’r llais i gantorion ifainc; cyfle i chwilio ffyrdd o annog pobl ifanc i ganu mewn côr; cyfle i ganu gyda chorws Opera Cenedlaethol Cymru.
  6. Gyda’n gilydd byddwn yn paratoi ac yn arwain Corws Opera Cenedlaethol Cymru mewn darn a gyfansoddwyd gan Bob Chilcott sy’n boblogaidd ymhlith corau ifainc ac yn ddarn corws opera poblogaidd sydd yn repertoire yr Opera. Cyfle i roi ar waith beth rydych wedi’i ddysgu!

CADW LLE YN Y DOSBARTH MEISTR

Pam rhedeg côr ysgol?

Mae pobl ifanc sy’n canu mewn côr ar eu hennill o:

  • wneud ffrindiau newydd, neu gyfnerthu cyfeillgarwch sy’n bod
  • dysgu sut i wrando
  • gweithio gyda’i gilydd at ddiben ar y cyd
  • dysgu sut i ymarfer a dysgu sut i wneud eu gorau i wella
  • dysgu sut i ddygnu arni ar weithgaredd ar hyd y daith yn hytrach na’r ennyd awr
  • profi gwefr a phwysau perfformio – gan gynnwys mynd i fannau eiconig i berfformio a chael profiadau i’w cofio ar hyd eu hoes
  • meithrin eu sgiliau llythrennedd ac iaith yn cynnwys barddoniaeth ac ieithoedd eraill
  • magu hyder
  • gwella eu lles a’u hiechyd meddwl
  • ehangu eu gorwelion
  • cael medr fydd gyda nhw ar hyd eu hoes ac y gallan nhw fynd yn ôl ato pan ddôn nhw i oed
  • i rai, cael hyd i fedr ddaw’n yrfa ddydd a ddaw
* Mae Susan Hollingworth yn gyfarwyddwr corawl ac yn addysgwr cerddorol. Mae’n Gymrawd Churchill, yn arobryn am ei gwaith gyda chorau ifainc. Yn 2008, ei chôr hi, Côr Iau Cydweithredol Scunthorpe (côr mynediad agored i bobl ifanc 9-19 oed) oedd enillwyr dros bawb Côr y Flwyddyn BBC3. Dyfarnwyd iddi Wobr Royal Philharmonic am gomisiynu a chyfarwyddo Cycle Song, opera gymuned i’r Olympiad Diwylliannol ac iddi fil pum cant o gyfranogwyr. Derbyniodd wobr gan Gramophone Magazine am fod yn gyfarwyddwr corawl wnaeth y mwyaf o wahaniaeth i’w cymunedau.  Yn 2018, rhoes Cymdeithas Cyfarwyddwyr Corawl Prydain iddi Wobr y Cadeirydd am ei gorchest oes.

 


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD