Mae athrawon sydd ar drywydd artistiaid/creadigolion, ac artistiaid/creadigolion sydd ar drywydd ysgolion i gydweithio â nhw, yn cael adran Cyfleoedd gwefan A2:Clymu yn lle tan gamp i gyfarfod eu cymar perffaith. Ar A2:Clymu daeth Ysgol Gynradd Ynysddu, ger Caerffili, o hyd i ddau o greadigolion ardderchog ar gyfer eu gwaith llafaredd, llythrennedd a lles gyda Disgyblion Blwyddyn 4 – fel y dywed Maggie James, Asiant Creadigol, wrthym.
Pa gyfle gyhoeddoch chi ar A2:Clymu?
Roeddem ar drywydd adroddwr straeon, a rhywun i helpu’r disgyblion i wneud Cadair Chwedleua. Amcan y prosiect oedd hybu Llafaredd, Llythrennedd a Lles i ddisgyblion Blwyddyn 4.
Pa bryd y clywsoch chi sôn yn gyntaf am adran Cyfleoedd gwefan A2:Clymu?
Yn un o’ch seminarau chi. Ymgofrestru oedd y dewis callaf, i’m tyb i, a chefais y wefan yn hawdd iawn ei defnyddio.
Oeddech chi’n falch o’r ymateb i’ch cyfle?
Cawsom ymateb tan gamp. Dros dair wythnos, ymatebodd un ar ddeg o bobl i’r ddau gyfle, a gofynnwyd iddyn nhw ddod i gyfweliad byr yn yr ysgol. Gofynnwyd iddyn nhw roi sesiwn blasu chwarter awr i grŵp o chwech o blant oedd wedyn yn rhan o’r cyfweliad â nhw.
Roedd yr ymarferwyr i gyd yn wych, ond roedd dau ohonyn nhw’n amlwg iawn i’r dim i’r prosiect neilltuol yma. Cyrhaeddodd Jason Hicks, gwneuthurwr celfi llwyfan ac animeiddiwr, ac i’w ganlyn masgiau a gogls i’r plant eu gwisgo, tra oedden nhw’n creu peth syml roedd rhaid iddo fynd drwy fwy nag un broses. Roedd y pant yn ymddiddori ar eu pennau yn y deunyddiau a’r prosesau newydd.
Cyrhaeddodd Louise Osborn, yr adroddwr straeon, ac i’w chanlyn pecyn roedd wedi cael hyd iddo drwy ryw ddirgel ffordd, a dyma’r grŵp yn ei ddadlapio’n ara bach ac yn ei drafod. Ar eu hunion meithrionodd y ddau ymarferwr berthynas â’r plant a dangos llond gwlad o ddychymyg yn eu gweithdai bychain. Yn unfryd dewisodd y plant weithio gyda nhw. Ers hynny maen nhw wedi llunio Cadair Chwedleua o lawn faint ac maen nhw’n datblygu straeon o The Deep.
Fyddech chi’n postio cyfle eto?
Does dim dwywaith na ddefnyddiwn i’r wefan eto, mae’r union gyfrwng i gysylltu athrawon ac ymaerferwyr ac yn fan cychwyn ardderchog er mwyn dod o hyd i’r person iawn neu’r cyfle iawn. Mae’n ddigwafars, yn glir, yn hawdd ei lywio ac yn gydnaws iawn â defnyddwyr.