2 Mai 2019

Cofiwch ddweud eich dweud!

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed eich barn am A2:Clymu a’r rhaglen Dysgu Creadigol Drwy’r Celfyddydau (DCDC) rydym yn rhan ohoni.

Felly gobeithio y cymrwch ran yn yr arolwg yma a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru – mae’r manylion i gyd isod – y dyddiad terfyn yw dydd Gwener, 17 Mai 2019.

Diolch i chi am ein helpu i gael gwybod rhagor am eich profiad o DCDC ac A2:Clymu.

Dymuniadau gorau,

Bryony Harris a thîm A2:Clymu


Ysgrifennwn atoch ynglŷn â’ch gweithgaredd neu’r ddigwyddiad yr Rhwydwaith Rhanbarthol ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg, rhan o raglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau (DCDC).

Mae Wavehill yn sefydliad ymchwil economaidd a chymdeithasol, ac rydym wedi cael ein comisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau. Hoffwn dderbyn adborth a dod i ddeall cymhellion ysgolion ac athrawon am gymryd rhan yn elfennau amrywiol y rhaglen, ac i gasglu eich barn ar effaith gweithgareddau’r rhaglen arnoch chi a’ch dysgwyr.

Mae eich adborth yn bwysig wrth lywio rheolaeth y rhaglen, a sicrhau bod gweithgareddau’r Rhwydweithiau Rhanbarthol ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg mor ddylanwadol a pherthnasol â phosibl. Hoffem eih gwahodd i roi rhywfaint o adborth ar y profiad hwnnw, a’r effaith y mae wedi’i gael ar eich addysgu.

Dylai’r holiadur gymryd tua 5-10 munud i’w gwblhau.

Cliciwch yma i gwblhau’r holiadur

Yn fyr, mae rhaglen DCDC yn cynnwys yr elfennau canlynol [1]:

Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
Llinyn Datblygu
Rhwydweithiau Rhanbarthol ar gyfer y Celfyddydau ac Addysg
Cronfa Profi’r Celfyddydau

Os nad ydych am i ni gysylltu â chi neu i ni gadw eich manylion cyswllt, cysylltwch â ni ar survey@wavehill.com.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Wavehill (survey@wavehill.com) neu Gyngor Celfyddydau Cymru.

[1] Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.celf.cymru/arts-in-wales/dysgu-creadigol?diablo.lang=cym

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD