7 Mai 2019

Cyfarfodydd a rhwydweithio athrawon ac artistiaid yng Nghaerdydd a Phenarth

Yma yn A2:Clymu rydym wrth ein boddau yn janglo’i hochr hi, ac rydym wrthi rownd y rîl. Ond mae yna ddiben difrif i’n sgwrsio. Mae gennym amrywiaeth o ffyrdd rydym yn rhoi cychwyn ar sgyrsiau ag artistiaid/creadigolion ac athrawon, artistiaid ac artistiaid, ac athrawon ag athrawon – ac yn eu cymell.

Os na fuoch yn un o’n digwyddiadau rhwydweithio o’r blaen, cofiwch ddod aton ni i’r cyfarfodydd olaf cyn gwyliau’r haf. Maen nhw am ddim!

Ie, wir, cyn pen dim bydd yn ddiwedd y tymor a dim ond pedwar cyfle sydd eto i ni ddod at ein gilydd, felly cofiwch gadw lle ar lein i wneud yn saff eich bod yn dod – rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi.

Grŵp Dysgu Artistiaid
Llun 13 Mai, Llun 15 Gorffennaf: 17:00-19:00
Chapter,   Caerdydd

Cyfarfodydd Cymdeithasol Rhwydweithio Athrawon 
Mawrth 25 Mehefin: 18:30 – 21:30
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
(yn cynnwys cyngerdd The Planets gan y Philharmonia Orchestra am 7.30pm)

‘Paned a Sgwrs
Mawrth 13 Mehefin: 10:00 – 12:00
Lolfa Ocho, Penarth
gyda ni ac ysgolion creadigol arweiniol
(dim angen cadw lle, dewch heibio!)

 


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 8th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 8th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD