10 Mai 2019

Athro neu greadigolyn? Sut y mae creu cyfrif a phroffil ar wefan A2:Clymu yn gallu’ch helpu chi i gael hyd i’ch cymar perffaith.

Efallai’ch bod yn meddwl mai ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu danysgrifio i’n e-newyddion yw’r ffordd hawsaf o glywed y diweddaraf am gyfleoedd, hyfforddiant, cyngor ac ysbrydoliaeth. Mae’n ffordd dan gamp o roi cychwyn arni, ond gallwch wneud i A2:Clymu weithio’n well fyth i chi.

Pam creu cyfrif a phroffil?

O greu cyfrif ar wefan A2:Clymu ac wedyn creu proffil a chanddo un rôl neu ragor (mae’n hawdd), byddwch ar eich ennill o allu:

✅ 🤗*NEWYDD* Bod y cyntaf i glywed am gyfleoedd newydd sydd wedi’u teilwra i chi  

Byddwn yn lansio gwasanaeth e-hysbys (yn yr haf, 2019). Gan ddefnyddio deheurwydd ein ap Cyfleoedd, fe ddaw cyfleoedd i law wedi’u seilio ar eich union ddiddordebau ac arbenigaethau. Ymgofrestrwch rhag blaen i ymorol eich bod yn eu cael cyn gynted ag y cân nhw’u lansio.
Gwasanaeth newydd yw hwn, heb fod run fath â’r e-newyddlen bresennol y byddwn yn ei rhedeg ochr yn ochr am dipyn eto.

✅ 👍Dod o hyd i’r artist/creadigolyn perffaith i’ch prosiect ysgol/maes cwricwlwm, os ydych yn athro

Rhoi gwybod i artistiaid beth rydych ar ei drywydd drwy greu cyfle; neu weld a oes yna rywun sydd eisoes yn gwneud y tro i’r dim drwy chwilio yn y Cyfleoedd. Wedyn codi sgwrs dim ond o glicio botwm.

✅ 👍Dod o hyd i ysgolion a disgyblion ac arnyn nhw eisiau beth sydd gennych chi i’w gynnig, os ydych yn artist/greadigolyn

Rhoi gwybod i athrawon beth rydych yn ei gynnig a sut mae’n cyd-fynd â’r cwricwlwm drwy greu cyfle; neu weld a oes yna rywun sydd eisoes ar drywydd beth rydych yn ei gynnig drwy chwilio yn y Cyfleoedd. Wedyn codi sgwrs dim ond o glicio botwm.

✅ 🗣Eich hybu eich hun – cael eich gweld yn ein cyfeirlyfr ‘Pobl’ (yn ôl eich dewis)

Os ydych heb eto wneud hynny, cliciwch ar eich eicon personol ar dop y wefan ar y dde, clicio ‘Proffil’, sgrolio i lawr i ‘Caniatâd’ a chlicio ‘Cyhoeddi’. Cofiwch ymorol eich bod wedi ychwanegu’ch lleoliad hefyd. Cael gwybod rhagor yma.

Sut i greu cyfrif a phroffil – mae’n hawdd!

  1. Ewch i www.a2connect.org/cy
  2. Cliciwch ar ‘Mewngofrestru neu Ymgofrestru’ (ar y top ar y dde)
  3. Teipiwch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair

Bingo! Rydych wedi creu cyfrif. Nawr y rhan bwysicaf. Bydd y rhan yma’n help i chi ymorol eich bod yn cael eich gweld gan y bobl iawn am y pethau iawn.

  1. Cliciwch ar ‘Proffil’ wedyn ‘Amdanaf fi’. Llenwch y ffurflen fer.
  2. ⚠️⚠️BWYSICAF OLL >> Cliciwch ar ‘Fy rolau’. Cliciwch ‘Ychwanegu rôl’. Dywedwch wrthym a ydych yn athro, yn artist etc (gallwch greu mwy nag un rôl), a llenwi ychydig mwy o fanylion.
  3. Cliciwch cadw
  4. ⚠️[YN ÔL EICH DEWIS OND YN BWYSIG] Ar drywydd artist? Neu ysgol? Cofiwch greu cyfle fel bod pobol all eich helpu yn gallu cael hyd i chi

A dyna ni – pob hwyl yn cysylltu!

Ac os ydych heb eto ymgofrestru i e-newyddlen A2:Clymu cofiwch wneud hynny hefyd i gael cyngor ymarferol, ysbrydoliaeth a syniadau gan athrawon/greadigolion eraill, a manylion hyfforddiant a digwyddiadau AM DDIM a chyfleoedd eraill, yn syth i’ch blwch derbyn. Ac wrth reswm pawb dilynwch ni ar Facebook a Twitter i chi gael clywed yn syth am ddigwyddiadau, datblygiad proffesiynol parhaus a chyngor a gwybodaeth arall.

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD