15 Mai 2019

Diwrnod dysgu dan bwysau? Dewch i gael goleuni ar sut y gallai gweithgaredd creadigol wneud lles i chi, neu sut y mae’n gwneud hynny’n barod

Mae hi’n wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac, os ydych chi’n athro, fe wyddoch pa mor bwysig ydi hi i ddisgyblion ofalu am eu hiechyd meddwl. Ond beth am eich iechyd meddwl eich hun? Fe allai astudiaeth newydd a phrawf ‘Feel Good’ roi goleuni buddiol i chi ar sut y mae’ch creadigedd eich hun eisoes yn help i’ch lles, a sut y gallai’ch gwneud yn fwy tebol fyth i ymdopi.

Ydych chi’n rhywun sy’n gweu’n gudd, yn dwdlan o bryd i’w gilydd, neu’n soprano dan y gawod? Cafodd yr astudiaeth newydd o 50,000 o bobl fod hyd yn oed y gweithgaredd creadigol lleiaf un yn gwneud lles i chi, yn helpu pobl i reoli teimladau, i fagu hyder ac i chwilio atebion i broblemau.

A chithau’n athro, does dim dau nad oes gennych eich strategaethau ymdopi eich hun at adegau pan fyddwch dan bwysau. Mae’r astudiaeth ymchwil yma, a’r prawf sydd ynghlwm, yn cynnig goleuni buddiol ar sut rydych efallai eisoes yn defnyddio creadigedd er eich lles eich hun – a sut y gallech ei ddefnyddio fwy fyth. Mae hefyd yn helpu gwyddonwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn y Brifysgol Agored i ddod i wybod rhagor.

Darllenwch “Even minimal creative activity boosts wellbeing, research finds” yn Arts Professional.

Rhowch gynnig ar y prawf ‘Feel Good’ ar-lein i gael argymhellion wedi’u personoli a chymryd rhan yn yr astudiaeth wyddonol.

 


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Yn dod cyn bo hir

  1. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    11:00AM - 12:30 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
  2. Maw 15th Hyd 2024

    Soundworks

    1:30PM - 3:00 PM
    Canolfan Hamdden y Goellewin
Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD