DIGWYDDIAD AM DDIM: Mae cyfres gerddorfaol y cyfansoddwr o Sais Gustav Theodore Holst, The Planets, yn ddarn gwych o gerddoriaeth i ysbrydoli meddyliau ifainc. Ac os ydych yn athro, gallwch ei weld AM DDIM (gyda thafluniadau wedi’u cynhyrchu gan Ganolfan Genedlaethol y Gwagle ac eraill), cael DVD am ddim, yn ogystal â rhwydweithio gydag athrawon eraill, nos Fawrth 25ain Mehefin yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Cyfansoddwr ac animateur cerddorol yw Helen Woods, sy’n gweithio gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd a’u disgyblion ers ugain mlynedd, yn creu prosiectau a phrofiadau cerddorol ysbrydoledig, sy’n hwyl. Mae hi’n rhannu awgrymiadau rhagorol yn gymorth i chi greu gwers sy’n gymorth i ddisgyblion ddysgu am gyfres The Planets a chwilio cerddora creadigol.
Y WER GYNTA
Soniwch wrthon ni am Gyfres The Planets a sut y gallwch chi ddechrau’r wers
“Mae pob un o’r saith symudiad wedi’i enwi ar ôl planed, ac mae gan bob un o’r planedau deitl hyfryd. Dyma nhw, yn eu trefn: (1) Mawrth, dygwr rhyfel; (2) Fenws, dygwr heddwch; (3) Mercher, y negesydd adeiniog; (4) Iau, dygwr miri; (5) Sadwrn, dygwr henaint; (6) Wranws, y dewin; a (7) Neifion, y cyfriniwr.
Os ydych chi wedi sylwi ar y blaned amlwg sydd ar goll, chafodd y Ddaear mo’i chynnwys oherwydd yn arfer astroleg, y Ddaear yw’r cyfeirbwynt. Yn ôl at Helen.
“Ar gyfer y wers gyntaf, rhannwch y dosbarth yn saith grŵp, gan roi llun un o’r Planedau i bob un gyda’i henw a’i theitl.
“Eglurwch eich bod am wneud seiniau’r Planedau ac mai eu tasg nhw yw dod o hyd i seiniau fyddai’n addas ar gyfer pob un, drwy roi cynnig ar offerynnau rydych naill ai wedi’u gosod ar fyrddau yn yr ystafell ddosbarth, neu wedi’u casglu yng nghanol neuadd yr ysgol. Mae hyn yn gyfle gwych i rai o’r bobl ifanc ddisgleirio os oes ganddyn nhw ffyrdd creadigol o feddwl neu os ydyn nhw’n tueddu i ‘wneud pethau’n wahanol’.”
Am ba hyd ddylai hyn bara?
“Rhowch tua chwarter hyd at hanner awr iddyn nhw. Fe allai hyn fod yn hwy nag sy’n braf i chi gan y bydd yna gryn dipyn o dwrw! Fy nghyngor i yw, rhowch groeso i’r llanast!
“Gadwch i’r plant chwilio. I ddechrau cychwyn efallai y byddan nhw’n ei gwneud hi am yr offeryn mwyaf croch neu ac arno’r olwg fwyaf diddorol. Popeth yn iawn, rhowch rwydd hynt iddyn nhw.
“Y peth pwysig yw eu cymell nhw i wrando a chwilio, gadael iddyn nhw fynd heibio i’r fan lle maen nhw’n dweud, ‘Dwi’n sâl isio taro’r symbal!’. Fe fydd yna dwrw garw ac anhrefn aflafar, ond fe ddaw popeth i’w le.
Be os nad oes yna ddigon o offerynnau?
“Hwyrach y bydd gofyn i chi gael hyd i seiniau neu eu creu. Er enghraifft, yn achos Iau, dygwr miri, rydych chi’n chwilio am sain ‘sy’n hwyl’. Felly mae rhoi dŵr mewn powlen o fetel tenau a’i throelli ar yr un pryd â’i tharo ar ei gwaelod yn gwneud sŵn gwych. Ar gyfer Fenws, dygwr heddwch, rydych chi’n chwilio am rywbeth tawelach o lawer. Felly fe allech dywallt dŵr o jwg, gan fod llawer o bobl yn cysylltu sŵn dŵr yn rhedeg â theimlad o heddwch a thawelwch. Neu fe allech ddewis recordio seiniau o’r awyr agored.”
Felly dyma chi wedi rhoi o leiaf chwarter awr iddyn nhw i arbrofi, neu hanner awr fan bellaf os ydych chi’n ddewr. Wedyn be sy’n digwydd?
“Mae’n bwysig rhoi cyfle i’r plant fod yn ddychmygus a gwrando go iawn. Gadwch iddyn nhw roi cynnig ar bethau, a dod i’w casgliadau eu hunain ynghylch beth yw’r sŵn iawn a be sy heb fod yn iawn. Amser piau hi. Ymchwilwyr i sain ydyn nhw.
“Fe ddôn nhw i’w penderfyniadau eu hunain ymhen yr hir a’r hwyr. Ac efallai bydd eu syniadau’n eich synnu chi. Os mai symbal yw dygwr heddwch, efallai bod hynny am fod pawb arall yn tewi pan fydd yn cael ei chwarae.
“Mae hefyd yn bwysig i chi wylio eu prosesau gwneud penderfyniadau a bod yn chwilfrydig ac yn frwd, a gofyn cwestiynau agored am eu syniadau. Er enghraifft, ‘Be wnaeth i ti feddwl am hynna?’, neu ‘Be mae hwnna’n ei gynrychioli?’. Mae gofyn i chi’u helpu i feddwl am eu penderfyniad i’r pen a gofyn iddyn nhw’u hunain pam ddewison nhw bob offeryn.
“Fe allai fod, heb hel dail, am fod arnyn nhw eisiau rhoi cynnig ar ryw offeryn neilltuol, ond y tebyg yw y byddan nhw’n trïo meddwl am reswm arall a hwyrach y byddan nhw hyd yn oed yn taro ar un creadigol iawn!”
“Bydd rhai plant yn ei chael hi’n haws nag eraill. Bydd rhai am gael ‘iawn’ ac ‘anghywir’, ac felly mae’n fuddiol dweud ein bod ni’n cael blas ar yr ymarfer yma yn rhywbeth lle nad oes yna ddim iawn nac anghywir. Mae hi’n fwy o drafodaeth a chyrchddull ‘ie, ac wedyn …’.
Unwaith y byddan nhw wedi dewis eu hofferynnau, be sy’n digwydd nesaf?
“Gofynnwch i rywun wirfoddoli i fod yn arweinydd o flaen y dosbarth. Nid pawb fydd am ei wneud. Rhowch rwydd hynt i’r rheini ac arnyn nhw eisiau ei wneud, cymryd eu tro, a newid y dasg fymryn ar gyfer pob arweinydd newydd.
“Cofiwch ymorol bod gweddill y dosbarth yn gallu gweld lluniau planed pob grŵp. Pan ddaw’r plentyn cyntaf i fyny i arwain, gallai ef neu hi bwyntio at lun/grŵp y blaned gyntaf, a rhoi cyfle i bawb yn y grŵp yna chwarae eu seiniau. Wedyn mae ef neu hi yn pwyntio at yr ail blaned ac ailadroddwch nes y byddwch chi wedi clywed seiniau’r planedau ill saith.
“Wedyn cyflwynwch yr ail arweinydd, gan ddweud: ‘Nawr rydym am glywed eich seiniau ddim ond gyhyd ag y bydd yr arweinydd yn pwyntio at eich planed.’ Wedyn mae’r ail arweinydd yn pwyntio at blaned, ac yn y blaen.
“Gallai ef neu hi eu ffeirio a dewis gwahanol blanedau am hydau gwahanol o amser. Nawr bydd gofyn i’r gerddorfa Blanedau rydych newydd ei chreu wylio’r arweinydd fel barcud. Fe allai’r arweinydd hyd yn oed beidio â phwyntio at yr un blaned a pheri i bawb dewi. Gallai hwn fod y gwagle rhwng y planedau.
“Gallai’r trydydd arweinydd ddefnyddio dwy law, gan bwyntio at ddwy blaned ar yr un pryd i weld sut sŵn sydd arnyn nhw gyda’i gilydd.
“Gall y pedwerydd arweinydd gynnwys arwydd i fynd ymlaen nes iddo ddweud wrthyn nhw am beidio, (rwy’n defnyddio arwydd samba’r bys cynta’n gwneud cylchoedd yn yr awyr). Mae’r fersiwn yma o’r darn yn gallu bod ag amryfal blanedau’n chwarae ar yr un pryd.
“Cofiwch recordio a gwneud fideo o’r seiniau ar iPad yn barod at eich gwers nesaf – dyna waith y gallwch ei roi i un o’r disgyblion.
Darllen awgrymiadau Helen ar gyfer yr Ail Wers, a dolennau ac adnoddau eto
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.