[Cyhoeddiad cyntaf – 29.11.18] Rydym wedi casglu gwybodaeth fuddiol yn gymorth i chi gael hyd i gyllid ar gyfer gweithgareddau creadigol eich ysgol, a chael syniadau codi arian. Cofiwch drosglwyddo hyn i reolwr busnes eich ysgol – a rhoi gwybod i ni a oes rhywbeth y carech ei ychwanegu.
Am ddysgu rhagor am wahanol ffynonellau cyllid a sut i sgrifennu cais llwyddiannus am gyllid? Dewch i’n digwyddiad!
A2:Clymu Gwneud ceisiadau am gyllid a sgrifennu cynigion ar gyfer Ysgolion
Dydd Llun, 21 Hydref 2019, 10am-4.30pm
Taenlen chwiliadwy ar gyfer cyllid i ysgolion
Rydym wedi diweddaru (Hydref 2019) ein taenlen grantiau sydd ar gael i ysgolion fel ei bod yn hawdd i chi gael hyd i grantiau addas i’r celfyddydau, cerddoriaeth, y rheini sy’n canolbwyntio ar anfantais, a grantiau cyffredinol a chanddyn nhw ganolbwynt penodol ar ysgolion.
Gallwch ei ddarllen neu ei lawrlwytho yma.
Oes gennych unrhyw rai i’w hychwanegu? Rhowch eich sylwadau ar y daenlen neu ebostiwch ni gyda dolen.
Cyngor buddiol
Rydym hefyd wedi casglu rhai postiadau blog a fideos y gallech eu cael yn fuddiol:
Syniadau codi arian tan gamp gan athro cynradd a chyn-gynghorydd addysg ddiwylliannol (Saesneg yn unig)
https://www.tes.com/news/how-fund-arts-your-school-sponsored
Cyngor cyffredinol ynghylch cyllido ysgolion gan gyn-reolwr busnes ysgolion (Saesneg yn unig)
Crynodebau buddiol cyllido torfol a sut y gallech chi ei ddefnyddio ar gyfer eich ysgol chi. (Saesneg yn unig)
https://edexec.co.uk/how-might-the-education-sector-embrace-crowdfunding/
https://www.tes.com/news/how-make-money-crowdfunding
Efallai bod rheolwr busnes eich ysgol eisoes yn tanysgrifio i wasanaeth hysbysu grantiau neu’n prynu llyfr grantiau, ond os na, dyma un teclyn y gallech ei ddefnyddio:
https://www.grants4schools.info/a-z-funding-guide-for-schools-2018.html
Oes gennych chi rywbeth i’w rannu a allai fod o gymorth i ysgolion eraill?
Os ydych wedi dod ar draws blog neu wefan tan gamp ynghylch codi arian, cronfa grantiau rydych wedi gwneud cais iddi, neu ffordd o godi incwm y cawsoch ei bod yn gweithio, byddem wrth ein boddau o’u rhannu yma ac ar ein rhwydweithiau cymdeithasol.
Byddwch yn helpu ysgolion eraill ac yn cael cyhoeddusrwydd i’ch ysgol chi. Gyrrwch ebost atom a chysylltwn â chi i gael galwad ffôn sydyn – wedyn fe wnawn ninnau’r gweddill.