28 Hydref 2019

Pam dod ag artist, creadigolyn, neu gorff diwylliannol i’ch ysgol?

Fuoch chi’n chwarae gyda’r syniad o ddod ag artist/creadigolyn/corff diwylliannol i’ch ysgol? Ydych chi’n ansicr o’r manteision, neu sut i ddarbwyllo’ch prifathro? Dyma saith rheswm yn gymorth i chi benderfynu:

1. Yr un amlwg: bydd y disgyblion yn dysgu sgiliau arbenigol, creadigol – ac yn gweld cadarnhau eu sgiliau eu hunain gan rywun sydd wedi’i hyfforddi ac sy’n brofiadol yn ei faes
A chithau’n athro byddwch yn deall pwysigrwydd dysgu’r ‘byd go iawn’. Mae dod ag artist/creadigolyn i’r ysgol yn rhoi lle i’r disgyblion ddysgu sgiliau gan rywun sy’n byw, yn bwyta ac yn anadlu ei ffurf ar gelfyddyd/arfer creadigol

2. Mae gofyn i chi’i ystyried yn ddatblygiad proffesiynol parhus i chi/eich cydweithwyr, yn gymaint ag yn ddatblygu sgiliau i’r disgyblion
Mae gan artist/greadigolyn sgiliau – a ffyrdd o feddwl – allai fynd â’ch addysgu a’ch dysgu i gyfeiriadau newydd. Gallwch hyd yn oed sgrifennu hyn yn y brîff ar gyfer y prosiect.

3. Mae rhyw gyffro bach bob amser ynghlwm â bod ag artist/creadigolyn yn eich ysgol/stafell ddosbarth. A hwyrach y cewch chi fod y disgyblion yn fwy astud
Waeth faint yw oed eich disgyblion, mae pobl sy’n ennill eu tamaid yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn ennyn rhyw fymryn o barch ym mhawb. Hwyrach y cewch chi hyd yn oed fod eich disgyblion yn fwy tebygol o dderbyn peth o’r adborth rydych eisoes wedi’i roi iddyn nhw!

4. Wyddoch chi fyth pa wreichionyn y gallai rhywun proffesiynol creadigol ei danio
Fe allai cerddor neu adroddwr straeon, dawnsiwr neu artist gweledol gydio hyd yn oed yn y disgybl mwyaf difraw, a hwnnw’n cael symbyliad a hyder newydd yn ei sgiliau ei hun

5. Mae safbwynt newydd yn symbylu meddwl newydd ymhlith disgyblion ac athrawon
Mae dod â rhywun arall proffesiynol i’ch ysgol a’ch stafell ddosbarth yn gallu symbylu meddwl newydd ac egni a chyffro newydd ymhlith disgyblion, athrawon ac eraill ar y staff.

6. Efallai na fydd gofyn i chi wario cymaint o arian/amser ag y meddyliwch chi
Fe allai hyd yn oed gweithdy hanner diwrnod neu ddiwrnod fod yn sbardun dysgu, a does dim rhaid iddo gostio crocbris. Y peth pwysicaf yw gwneud amser i ddatblygu brîff da – efallai y cewch ei bod yn fuddiol ei sgrifennu neu ei ailwampio ar y cyd â’r artist

7. Fe ddaw’r holl resymau yma’n bwysicach fyth pan lansir y cwricwlwm newydd yng Nghymru
Felly dyma adeg dan gamp i ddechrau rhoi cynnig ar wahanol gyrchddulliau a chydweithredu ag artistiaid a chreadigolion. Fe allech gychwyn â chofrestru ar ein gwefan a chwilio am ‘gyfle’ wedi’i bostio gan artist. Neu well fyth, postiwch eich syniad ar gyfer prosiect/partneriaeth fel ‘Cyfle’. Mae’n hawdd, ac mae ein ffurflen hawdd ei llenwi yn mynd â chi drwy’r broses. Gewch chi wybod sut i gofrestru a chreu cyfle yma.


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.


 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD