A’r cwricwlwm newydd yn lansio ym mis Ionawr, hwyrach eich bod yn ystyried dod ag artist, creadigolyn neu gorff diwylliannol i’ch ysgol i symbylu meddwl newydd yn y Celfyddydau Mynegiannol neu ddysgu creadigol. Bydd y rhestr wirio hwylus yma’n eich arwain chi drwy bopeth mae gofyn i chi feddwl amdano, gan gynnwys trafodaethau dechreuol, cynllunio, a chyflenwi.
Mae’n cwmpasu arfer da ym meysydd: mynegi amcanion (o amcan artistig a phroffesiynoldeb hyd at berthnasedd a chynwysoldeb); cynllunio’r gweithgaredd a gweithio gyda’r disgyblion a’r staff.
Mae yna hefyd:
• astudiaethau achos ar fideo
• dolennau â chyfleoedd cyllido (gweler hefyd ein Blog cyllido a thaenlen fanwl cyfleoedd cyllido)
• dolennau ag adnoddau gan gynnwys grwpiau Gweplyfr
Llwythwch i lawr Celfyddydau mynegiannol – cydweithredu er llwyddiant.
Ydych chi’n barod i gydweithio ag artist, creadigolyn neu gorff diwylliannol?
Bwriwch olwg ar adran Cyfleoedd ein gwefan lle gallwch geisio a chael pob mathau o artistiaid, creadigolion a chyrff diwylliannol, yn ogystal â phostio beth rydych chi’n ei geisio fel ‘cyfle’ (mae’n wirioneddol hawdd – Gewch chi wybod rhagor yn y blog yma).
Heb fod yn hollol barod neu angen darbwyllo eich prifathro?
Darllenwch ein blog, ‘Pam dod ag artist, creadigolyn neu gorff diwylliannol i’ch ysgol?’
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr adran Cyfleoedd ar wefan A2:Clymu.