16 Rhagfyr 2019

Cyngor ar ddefnyddio drama yn y dosbarth – cyfres fideo Sgiliau dim Ffriliau – Drama #2

Mae drama’n declyn anhygoel ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae’n ffordd hwyliog o wreiddio dysgu am ystod o bynciau; ac mae’n cynnig gwledd o fanteision, gan gynnwys meithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith, annog cydweithio, datblygu deallusrwydd emosiynol, ysbrydoli meddwl creadigol – i enwi dim ond rhai manteision! Dyma’r ail o dri fideo Sgiliau dim Ffriliau, sy’n rhoi syniadau a chyngor i athrawon ar gyfer defnyddio drama yn yr ystafell ddosbarth. Gweld Drama #1.

Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.

Drama #2: Dod ag iaith yn fyw

Defnyddiwch Ddrama i arbrofi gyda dulliau creadigol mewn sesiynau llythrennedd

Gwnewch y dysgu’n hwyl a bachu’r cof! 

Mae cynrychioli iaith mewn modd corfforol yn helpu i feithrin dealltwraeth ac ehangu geirfa ymysg y dysgwyr

Gweithgaredd 1:  Ymgorfforwch yr Air

  1. Ysgrifennwch geiriau ar eich thema ar gardiau i’w roi i ddysgwyr unigol cyn ddechrau. Sirchewch eu bod yn deall ystyr y gair.
  2. Rhowch amser i’r dysgwyr i feddwl sut i gynrychioli’r air yn gorfforol gyda siap y corff, y sefyll, neu gan ystumio’r gwyneb.
  3. Mewn cylch, croesewir un person ar y tro i’r canol, gan cyhoeddi eu gair yn glir i bawb a dangos sut maent yn ymgorffori’r air, gan rhewi yn y man.
  4. Gall dysgywr eraill ychwanegu ato mewn trefn neu ar hap, i ddatblygu llun mud (still life) gyda’u cyrff.

Amrywiad 1 – Defnyddio geirfa allweddol thema neu man arbennig i helpu’r dysgwyr cofio’r eirfa.

Amrywiad 2 – Cymerwch eiriau sy’n perthnasol i stori, fydd hyn yn helpu’r dysgywr trefnu’r diwgyddiadau.

Amrywiad 3 – Ffocyswch ar ansoddeiriau, berfau ac adferfau sy’n perthnasol i’ch thema neu’r cymeriadau yn y stori, gan ddatblygu dealltwraeth a hyder eich dysgwyr i ddefnyddio’r geirfa disgrifiadol ac uchelgeisiol.

Gweithgaredd 2:  Gornest Eiriau

Gellir defnyddio sarhadau Shakespeare, neu hyd yn oed brawddegau estynedig a ffroenuchel o’ch dychymyg chi a’r dysgwyr, i wneud iaith yn gêm. Bydd yn siwr o atgoffa’r plant o bwysigrwydd chwarae teg a chystadleuaeth teg!

  1. Cyflwynwch iaith anodd i’r plant a gofynnwch iddyn nhw ei adrodd yn nôl. Mae Shakespeare yn llawn o sarhadau gall fod yn enghraifft i chi, neu dyfeisiwch brawddegau ffroenuchel a ffansi er mwyn denu’r sylw!
  2. Cynhaliwch gornest eiriau, sydd run fath â gornest ddawnsio ond gydag iaith! Rhannwch y ddosbarth mewn i hanner, gan ofyn iddyn nhw sefyll mewn dwy linell sy’ gwynebu ei gilydd. Anogwch nhw i ddyfeisio cyfres o sarhadau neu brawddegau arbennig sy’n denu sylw. Wedyn gofynnwch iddyn nhw gweithio ar-y-cyd i benderfnyu ym mha drefn y byddent yn eu defnyddio, a pha symudiadau neu ystumiau’r gwyneb fydd yn cyd-fynd gyda’r perfformiad!

Mae’r cyfle i fyfyrwyr glywed ac ailadrodd iaith gymhleth cyn iddyn nhw ei darllen yn gallu eu helpu nhw i archwilio a deall yn drylwyr yr iaith anodd hon, gan fagu’r teimlad o berchen â’r iaith fydd yn arwain at ei defnyddio wrth ysgrifennu.

Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth?

CYSYLLTIADAU: Mwy o weithgareddau a gemau i chwarae gyda’ch dysgwyr

www.dramatoolkit.co.uk/drama-games

www.dramanotebook.com/drama-games

www.bbbpress.com/dramagames

 

Mae hwn yn rhan o gyfres o 15 fideo a thaflen adnoddau ‘Sgiliau dim Ffriliau’, a grëwyd gyda chymorth Hyrwyddwyr Celfyddydau A2:Connect. Athrawon yw’r Hyrwyddwyr Celfyddydau, sy’n gweithio gyda ni i rannu eu harfer a’u harbenigedd gydag ysgolion/athrawon eraill yn y rhanbarth.

 


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.


 

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD