Mae cerddoriaeth yn tannu’r dychymyg a theimladau. Bydd gwrando ar gerddoriaeth yn wych i ddatblygu llafaredd eich dysgwyr.
Gofynnwch i’r dysgwyr disgrifio cerddoriaeth, a rhoi eu barn gyda rhesymau. Trwy addysgu’r eirfa berthnasol i ddisgrifio a thrafod yr elfennau cerddorol, bydd sgiliau dadansoddi’r plant yn cael eu datblygu.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Cerddoriaeth #1: Trafod Cerddoriaeth
GWEITHGAREDD 1: Dim atebion anghywir
Mae’r gweithgaredd hon yn cysylltu delweddau a cherddoriaeth gyda themâu a syniadau, sy’n helpu meithrin sgiliau feddwl a’r dychymyg.
- Rhowch daflen i’ch dysgwyr gyda lluniau atgofus arno. Gall fod rhain wedi’u cysylltu gyda’ch thema neu gasgliad i ysbrydoli meddwl tu hwnt i’r amlwg.
- Chwaraewch darn o gerddoriaeth i’r dysgwyr, rhwybeth cerddorfaol neu sydd gyda sawl elfen gerddorol ddiddorol ynddo, er mwyn ysbrydoli amrywiaeth o ymatebion a syniadau. Rhowch iddyn nhw dim cyd-destun na hanes i’r darn, a synnwch ar yr atebion diddorol.
- Wrth eu bod yn gwrando ar gerddoriaeth gofynnwch pa un o’r delweddau y maen nhw’n meddwl ydyw. Beth sy’n gadarnhaol iawn am y gweithgaredd yma yw’r ffaith fod dim atebion cywir nac anghywir, beth sy’n bwysig yw bod eich disgyblion yn gallu esbonio’r penderfyniad y gwnaethon nhw.
- Yn y diwedd efallai fyddech yn hoffi rhannu ychydig o gyd-destun neu brofiad bywyd y cyfansoddwr, a gofynnwch os mae hyn yn newid beth maent yn meddwl oedd y cyfansoddwr eisiau cyfathrebu gyda’r darn. Pwysleisiwch nid ydy’r ffaith oedd gan y cyfansoddwr bwriad arbennig yn golygu fod eu syniadau yn anghywir, achos mae modd dehongli darn o gerddoriaeth mewn sawl ffordd wahanol!
GWEITHGAREDD 2: Fy hoff gerddoriaeth
Gwrando a disgrifio
Cefnogwch eich dysgwyr i fagu dealltwriaeth a hyder wrth ddadansoddi a gwerthfawrogi cerddoriaeth trwy neilltuo 5 munud yr wythnos ar gyfer gwrando a thrafod darn o gerddoriaeth. Dechreuwch gyda eich hoff ddarn o gerddoriaeth chi, ac wedyn gwahoddwch eich dysgwyr i ddod â’u hoff ddarnau nhw i mewn i rannu gyda’r dosbarth. Cadwch arddangosfa ar eich wal o’r Elfennau Cerddorol (isod). Mae gwrando a thrafod y gerddoriaeth yn rhoi’r cyfle i ddefnyddio’r eirfa yma mewn cyd-destun, a thrafod pam mae’r cyfansoddwyr wedi penderfynu mynegu eu syniadau yn y modd yma. Gadewch i’ch agwedd cadarnhaol a’ch mwynhad o wrando ar gerddoriaeth ysbrydoli’r dysgwyr!
Deall geirfa – yr Elfennau Cerddorol
Traw – Pa mor uchel neu isel yw’r gerddoriaeth.?
Hyd- hyd y nodau neu’r seiniau sy’n ffurfio’r gerddoriaeth, ydyn nhw’n fyr ac yn siarp ynteu’n hir ac yn estynedig?
Deinameg – a yw’r gerddoriaeth yn uchel ynteu’n dawel, sut y mae’n newid ei huchder?
Tempo – Cyflymdra neu tempo’r gerddoriaeth, a yw hi’n araf ac yn hamddenol neu’n swnio fel petai ar frys!
Timbre – Lliw tôn y gerddoriaeth, a yw hi’n wibiog ynteu’n diasbedain? Mae hyn yn ardderchog i gael gan eich disgyblion ddefnyddio ansoddeiriau uchelgeisiol.
Ansawdd – Oes gan y gerddoriaeth un sain, fel unawd ffidil, ynteu lond gwlad o seiniau gyda’i gilydd, fel cerddorfa?
Adeiladwaith – A yw’r gerddoriaeth mewn gwahanol adrannau fel pennill a chytgan? Ydy’r cyfansoddwr yn defnyddio ailadrodd, elfennau annisgwyl neu drobwyntiau penodol? Ydy seiniau gwahanol yn cael eu gorwedd un o dan y llall, ac os felly ydyn nhw’n gwrthgyferbynnu neu’n cyfatebu’n dda gyda’i gilydd?
Distawrwydd – A yw’r gerddoriaeth yn defnyddio munudau o ddistawrwydd?
Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth
CYSYLLTIADAU: Mwy o weithgareddau i’ch dysgwyr (Saesneg yn unig)
https://www.classicsforkids.com/
http://www.bbc.co.uk/schools/websites/4_11/site/music.shtml
http://thesongwritingdoctor.com
https://www.intofilm.org/resources/67
Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.
Mae hwn yn #1 o 3 adnodd Cerddoriaeth a fideo.
Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.