10 Chwefror 2020

Pecynnau Ysgol

Mae gweithdy blasu ar gamelan Neuadd Dewi Sant yn cyflwyno cerddoriaeth Java i fyfyrwyr. Mae pob offeryn cymhleth sydd yn Neuadd Dewi Sant wedi ei wneud o efydd, gyda cherfiadau pren traddodiadol wedi eu gorffen â llaw. Mae’r set gamelan yn cynnwys offerynnau taro, drymiau a gongiau. Mae’r offerynnau eu hunain yn cyfleu syniad o’r diwylliant ac mae’r synau a’r gerddoriaeth yn hollol fywiocaol – sy’n anrheg addysgiadol.

Mae gamelan yn brofiad hwyliog ac ysgogol sydd â rôl bwysig i’w chwarae ar bob lefel mewn addysg gerddoriaeth. Mae ein sesiynau gamelan yn trafod llawer o gysyniadau yn y cwricwlwm cerddoriaeth ar gyfer cyfnodau allweddol 1, 2 a 3 gan gynnwys cysylltiadau â’r Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd. Yn ogystal â chynnig ‘cerddoriaeth o ddiwylliannau eraill’, gall gamelan hefyd gyfrannu at addysgu cerddoriaeth mewn ffyrdd eraill sy’n cynnig cyfle i ddefnyddio synau newydd ac ymateb i gerddoriaeth yn unigol ac fel dosbarth.

Mae gweithdai gamelan Neuadd Dewi Sant wedi eu canmol gan Viv John, Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC: “Roedd hi’n dda gallu chwarae offerynnau go iawn ac mi dderbyniodd y myfyrwyr sylfaen dda yn yr arddull yn ogystal â syniadau defnyddiol ynglŷn â sut i’w roi ar waith yn y dosbarth.”

Mae’r myfyrwyr yn cymryd rhan greadigol trwy gydol y sesiwn, sy’n datblygu eu sgiliau gwrando, eu hyblygrwydd a’u sgiliau gwneud cerddoriaeth mewn grŵp. Mae hyn yn ei dro yn gwella sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a hunanhyder. Ac mae’r rhain i gyd yn werthfawr o ran datblygiad personol ac academaidd. Mae gamelan yn gyfle i addysgu myfyrwyr mewn amgylchedd dymunol a hamddenol. Does dim angen profiad i gymryd rhan yn y gweithdy unigryw hwn. Bydd cerddor gamelan profiadol yn arwain y grŵp, ac mae’n werthfawr nid yn unig i’r myfyrwyr ond i’r athrawon hefyd.

Mae sesiwn 2 awr arferol yn costio £165.00 am hyd at 20 o ddisgyblion. Fodd bynnag gellir teilwra sesiynau i grwpiau o hyd at 30 o ddisgyblion. Sylwer: gall sesiynau wedi eu teilwra i dros 20 disgybl gostio mwy. Cyfeiriwch at yr wybodaeth am docynnau i gael mwy o fanylion.

Pecynnau sydd ar gael:

£165 – Rhoi Cynnig ar Gamelan – Blwyddyn 4-12 – Mae’r sesiwn hon ar gael am hyd at 20 disgybl a bydd yn para hyd at 2 awr. Bydd disgyblion yn treulio 2 awr gan gael profiad ymarferol wrth ddysgu darn o gerddoriaeth yn y dull lancaran. Byddant yn datblygu eu sgiliau rhythmig, melodaidd, strwythuro a gwrando. Bydd darn llawn yn cael ei chwarae erbyn diwedd y sesiwn.

£190 – Rhoi Cynnig Ychwanegol ar Gamelan – Blwyddyn 4-6 – Mae’r sesiwn hon ar gael am hyd at 30 o ddisgyblion a bydd yn para hyd at 2 awr. Caiff y gamelan ei ddefnyddio ar gyfer rhan o’r sesiwn ond bydd y ffocws hefyd ar ddatblygu sgiliau rhythmig, melodaidd, strwythuro a gwrando i alluogi disgyblion i ddysgu darn yn y dull lancaran. Bydd darn llawn yn cael ei chwarae erbyn diwedd y sesiwn.

£190 – Rhoi Cynnig Ychwanegol ar Gamelan – Blwyddyn 2-3 – Mae’r sesiwn hon ar gael am hyd at 30 disgybl a bydd yn para hyd at 2 awr. Bydd disgyblion yn archwilio gwneud cerddoriaeth trwy ddefnyddio’r gamelan, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau rhythmig, melodaidd, strwythuro a gwrando. Erbyn diwedd y sesiwn bydd disgyblion fel rheol wedi dysgu’r holl elfennau y caiff eu defnyddio mewn darn o gerddoriaeth gamelan yn y dull lancaran megis strwythur, melodi, rhythm a gwrando. Fodd bynnag, ni chaiff darn llawn ei berfformio ar y diwedd fel arfer.

£165 – Archwilio Gamelan – Safon Uwch/Prifysgol – Mae’r sesiwn hon yr un peth â SESIWN FLASU SAFONOL ond gellir ei chymryd ymhellach drwy ddysgu darn o lancaran mwy cymhleth gydag isalaw a/neu wrth edrych ar ddarn yn y dull lancaran (rhaid trafod hyn cyn y gweithdy). Bydd o leiaf 1 darn llawn yn cael ei chwarae erbyn diwedd y sesiwn.


SYLWER – WRTH GADW LLE, BYDD ANGEN I CHI DDEWIS Y MATH CYWIR O DOCYN.

Cwestiynau Cyffredin

Faint o staff all ddod gyda mi?

Rhaid bod o leiaf un athro yn gwmni i ddisgyblion bob amser ond gallwch ddod â chynifer ag y dymunwch a gallwch chi i gyd gymryd rhan hefyd, gan ddibynnu ar y niferoedd!

  • Sawl disgybl all ddod gyda mi?

Mae lle i 20 disgybl ar weithdy gamelan – mae digon o offerynnau gennym ar gyfer 20 disgybl ar y tro., oni bai eich bod wedi cadw lle yn un o’n gweithdai eraill ni.

  • A oes amserau penodol i’r gweithdai?

Oes – 10am tan 12pm a 12.30pm tan 2.30pm.
A yw’r gweithdai yn addas ar gyfer grwpiau o ysgol arbennig?
Ydyn – mae llawer o ysgolion arbennig yn dod â grwpiau i’n gweithdai Mae cadeiriau ar gael os yw anabledd yn rhwystro disgybl rhag eistedd ar lawr ac mae modd gwneud lle i gadeiriau olwyn hefyd – rhowch wybod ynghylch eich anghenion wrth gadw lle.

  • Beth byddwn yn ei chwarae?

Yn ystod y sesiwn bydd grwpiau’n dysgu sut i chwarae darn traddodiadol o Jafa.

  • Pwy sy’n arwain y gweithdy?

Mae gan Actifyddion Artistig dîm o diwtoriaid gamelan arbenigol y mae ganddynt brofiad o arwain gweithdai ar gyfer pob math o grwpiau ysgol a chymunedol.

  • A oes unrhyw beth y dylwn i a fy nisgyblion ei wybod ymlaen llaw?

Caiff yr offerynnau eu chwarae ar y llawr, felly byddai trowsus yn fwy cyfforddus. Hefyd gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan neu yn gwylio i dynnu eu hesgidiau.

    • Alla i dynnu lluniau?

Gallwch – dewch â’ch camera. Hefyd gallwch wneud recordiad sain neu fideo ar ddiwedd y gweithdy i recordio perfformiad olaf y grŵp. Chewch chi ddim recordio’r gweithdy cyfan.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD