Mae ffotograffiaeth yn ffordd syml ac effeithiol i’ch dysgwyr ifainc ddefnydio TGCh i greu delweddau hwyl a thrawiadol.
Does dim ots os taw defnyddio llechen ipad neu gamera digidol ydy nhw, mae dysgu am egwyddorion ffotograffiaeth yn syml ac yn plethu dysgu ar draws y cwricwlwm.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Ffilm a Chyfryngau #1: Ffotograffiaeth gyda’ch dysgwyr
GWEITHGAREDD 1: Deall y rheol treianau
Adnabyddir y rheol aur yn ffotograffiaeth fel y ‘Rheol Treianau’. Dychmygwch fod eich llun wedi’i rannu i grid o 9 ran hafal, fel hyn.
Wedyn cyfansoddwch eich ffotograff fel bod yr elfen mwyaf diddorol wedi’i leoli ble mae’r llinellau yn cwrdd. Mae sawl camera (neu ap tynnu lluniau ar lechen) yn eich galluogi i greu grid ar y sgrîn ar gyfer tynnu lluniau, a fyddai wir yn helpu eich dysgwyr i ddeall y dull syml ond effeithiol yma.
Achos fod ffotograffiau yn gyflym i’w gyflawni mae’n darparu digon o gyfleoedd i ddysgu drwy brofi a methu. Dwedwch y rheol wrthyn nhw, wedyn gofyn iddyn nhw dynnu pum llun sy’n dilyn y rheol. Edrychwch ar y lluniau gyda nhw wedyn gan rhannu adborth a’u herio nhw i wella eu gwaith.
GWEITHGAREDD 2: Chwarae gyda pherspectif
Mae hyn yn ffordd hwyl i ofyn i’ch dysgwyr ifainc arbrofi gyda ffotograffiaeth, fod yn greadigol a chreu twyll optigol eu hun. Mae hi’n gweithio gan ddefnyddio perspectif i dwyllo’r gweledwr i feddwl fod y pobl a’r gwrthrychau naill ai’n llai neu’n fwy nag ydyn nhw go iawn.
Er mwyn creu’r twyll, anogwch eich dysgwyr i arbrofi gyda lleoliad y camera a’r pellter rhwng pobl a’r gwrthrychau. Am gam yn uwch, gofynnwch i’ch dysgwyr ceisio defnyddio props neu chymeryd y ffotograff ben-i-waered.
GWEITHGAREDD 3: Creu’r Wyddor mewn ffotograffiau
Gosodwch tasg i’ch dysgwyr ifaInc. Gofynnwch iddyn nhw cymryd cyfres o 26 ffotograff, naill ai o gwmpas yr ysgol neu hyd yn oed ar daith ysgol. Ond dyma’r her- rhaid i bob ffotograff cynrychioli llythyren o’r Wyddor.
Gallen nhw cadw pethau’n syml. Gallent cynrychioli A gydag Afal, B gyda banana…. Ond gallen nhw ymestyn ei hunain i greu rhywbeth mwy diddorol eto, er enghraifft cymryd lluniau sy’n dangos emosiwn e.e. A am ‘atgasedd’ a B am ‘brwdfrydedd’.
Y peth pwysicaf am yr ymarfer yma yw eich bod yn eu hannog i rannu eu gwaith gyda’r dosbarth ac yn trafod y syniadau tu ôl i’w delweddau, er enghraifft trwy ofyn i weddill y dosbarth dyfalu pa air oedd wedi dylanwadu ar y ffotograff. Gyda’r dull yma o weithredu fe fyddech yn meithrin teimlad o fod yn gymuned creadigol ac yn helpu’r dysgwyr datblygu eu llafaredd.
Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth
Gwefannau i ddarganfod mwy o wybodaeth (Saesneg yn unig)
https://digital-photography-school.com/forced-perspective/
https://study.com/academy/topic/photography-lesson-plans-resources.html
Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.
Mae hwn yn #2 o 3 adnodd Ffilm & Chyfryngau sy’n cyd-fynd â fideo.
Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.