Mae creu animeiddiadau yn ffordd hwyl o archwilio syniadau tra’n cynnwys llythrennedd digidol i’ch gwersi.
Nid hyfforddi’r dysgwyr i fod yn animeiddwyr proffesiynol ydych chi!
Defnyddiwch animeiddio i archwilio’r cwricwlwm.
Cerwch amdani – mae’r herion technolegol yn gyfle i ddatblygu annibyniaeth a dygnwch eich dysgwyr!
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Ffilm a Chyfryngau #3: Animeiddio yn y dosbarth
GWEITHGAREDD 1: Gwneud Zoetrope
Mae zoetrope yn ffordd hwyl a bachog o ddod â lluniau yn fyw. Mae rhain yn declynnau animeiddio cynnar a ddaeth cyn ddyfodiad sinema, sydd wedi ei wneud gyda drwm crwn gyda tyllau mân wedi’u torri ynddo. Mae’r tyllau yn eich galluogi i edrych tu fewn i’r drwm, ble mae cyfres o luniau sy’n newid yn raddol gyda phob cam. Pa fyddech yn troi’r drwm, mae’r rhannau du yn bihafio fel y caead (shutter) sydd ar daflunydd ffilm.
Cewch ddigonedd o Fathemateg trawscwricwlaidd wrth wneud zoetrope, gan fod y dasg yn ofyn am fesur gofalus, peirianwaith syml a chreadigrwydd. Mae’n gweithgaredd tîm gwych sy’n siwtio timoedd o 3-4 plentyn yn gweithio gyda’i gilydd.
Am gyfarwyddiadau llawn (yn Saesneg) rhowch yn eich porwr:-
http://www.cutoutfoldup.com/1108-zoetrope.php
GWEITHGAREDD 2: Creu animeiddiad o luniau
Mae iPads a llechi yn offer arbennig i gael eich disgyblion i arbrofi gyda chreu animeiddiad o luniau (stop motion). Mae sawl ap ar gael sy’n gwneud y broses technegol yn hawdd a hwyl, gan adael i’r dysgwyr feddwl yn greadigol wrth adrodd stori.
iMotion yw’r ap mwyaf syml ac effeithiol rydym ni wedi defnyddio sy’n gweithio’n dda mewn awyrgylch ddosbarth.
Gall disgyblion defnyddio ffigyrau lego, pypedau papur, neu greu cymeriadau ei hunain, sy’n golygu y gallech dechrau animeiddio yn gyflym iawn. Gallech ofyn i’ch dysgwyr addasu golygfa gan lyfr yr ydych yn astudio, creu fideo am gerddoriaeth, neu arddangos sut mae planedau cysawd yr haul yn symud. Gan fod hi’n animeiddiad does dim byd i atal eu dychymyg!
GWEITHGAREDD 3: Arbrofi gyda Scratch
Mae scratch yn raglen cyfrifiadureg a chodio sydd wedi’i ddyfeisio at ddefnydd plant. Mae’n hawdd i unrhywun i greu gemau neu animeiddiadau gan luchio o’r bwydlen o opsiynau yr elfennau y dymunwch.
Gall ymweld yn heriol i ddechrau, ond mi all eich dysgwyr hefyd ffeindio gemau â’u creuwyd gan ddefnyddwyr eraill, a chael gweld y côd tu cefn i’r gêm er mwyn eu copio. Mae nifer o diwtorials arlein ar gael yn ogystal â sawl llyfr cam-wrth-gam fydd yn datblygu sgiliau darllen a dilyn cyfarwyddiadau eich disgyblion. Os ydych gyda phrosiect penodol sy’n heriol, byddai fforwm y defnyddwyr sydd ynghlwm â’r gwefan scratch yn medru eich cefnogi, gyda chymuned ryngwaladol o ddefnyddwyr scratch sy’n hapus i ateb cwestiynau a’ch helpu i ddatrys problemau.
Ble nesaf a ble i chwilio am gymorth
Gwefannau i ddarganfod mwy o wybodaeth (Saesneg yn unig)
https://scratch.mit.edu/educators
Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.
Mae hwn yn #3 o 3 adnodd Ffilm & Chyfryngau sy’n cyd-fynd â fideo.
Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.