14 Mawrth 2020

Cyngor ar ddefnyddio celf gweledol yn y dosbarth – cyfres fideo Sgiliau dim Ffriliau – Celf Gweledol #2

Mae Celf gyda’r gallu i fachu ac ysbrydoli eich dysgwyr, gan sicrhau eich bod yn ennyn eu sylw ac yn cefnogi eu lles. 

Mae defnyddio celf i ddysgu pob agwedd ar y cwricwlwm yn rhoi cyfle i athrawon wneud lle i fwy ohoni yn eu hamserlen. Mae sgiliau meddwl, llythrennedd, llafaredd, gwyddoniaeth, mathemateg, TGCh i gyd yn addas i’w corffori mewn i’r gweithgareddau Celf â rhestrir isod.

Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.

Celf Gweledol #2: Dysgu popeth trwy Gelf

Addysgwch Hanes gyda Chelf

  1. Edrychwch ar bortreadau o ffigyrau hanesyddol a thrafodwch sut fath o gymeriad ydyn nhw’n meddwl oedden nhw, a sut oedden nhw’n byw. Cymharwch a chyferbyniwch rhwng portreadau o’r dynion a’r menywod, y cyfoethog a’r tlawd o’r cyfnod hynny, neu cymharwch gyda phortread cyfoes o’n Hoes n ii ddatblygu perspectif a dealltwraeth o’r cysyniadau. Sut mae’r dysgwyr yn meddwl oedd yr artist yn teimlo am y person oeddent yn peintio? Sut arall fyddai’r artist yn cael ei dylanwadu, er enghraifft, oedden nhw’n cael eu talu?
  2. Archwiliwch arteffactau hanesyddol mewn goleuni a thywyllwch, gan cau’r llenni am sesiwn i ddefnyddio tortsys i arsylwi a darlunio eitemau gyda phensiliau neu golosg. Bydd gweithgaredd o’r fath yn cyfuno’n dda gydag arbrofion gwyddonol sy’n archwilio goleuni/tywyllwch, gan ddatblygu dealltwraeth am y modd mae golau yn teithio mewn llinellau syth. Byddai darparu cefndir o ddefnydd adlewyrchiadol gwyn neu arian yn datblygu eu dealltwraeth ymhellach. 

Addysgwch Daearyddiaeth gyda Chelf

  1. Archwiliwch peintiaidau tirlun: cymharwch a chyferbyniwch rhwng peintiaidau sy’n dangos bywyd cefn gwlâd a thref, gan drafod sut mae’r tir yn cael ei defnyddio, pa anifeiliaid sy’n defnyddio’r tir a pha broblemau sydd. Ble fyddai’n well ganddyn nhw byw? Syniad arall yw i gymharu tirwedd Cymru gyda gwlad arall, er enghraifft Affrica neu Awstralia. Beth allem dysgu am hinsawdd a bywyd yn y wlad honno gan y llun? Trafodwch y manteision ac anfanteision o byw yng ngwlad gyda hinsawdd poeth i’w cymharu gyda gwlad o hinsawdd oerach fel ni.  
  2. Mae artistiaid tirwedd e.e. Andy Goldsworthy, yn defnyddio adnoddau naturiol i greu patrymau a siapiau. CYmharwch rhain gyda chelf yr Aborigine yn Awstralia, ble mae’r gwaith celf yn eich cymryd am dro gyda symbolau i arddango yr anifeiliaid ac elfennau megis tân/dŵr. Gofynnwch i’ch dysgwyr creu symbolau sy’n arddangos taith diweddar y cymerwch chi, gan ddefnyddio dim ond cerrig crwn a ffyn (neu dotiau a llinellau ar bapur) i greu symbolau a phatrymau sy’n adrodd stori eich taith. 

Addysgwch Addysg Grefyddol gyda Chelf

  1. Arbrofwch a chreuwch patrymau sy’n ailadrodd a chyd-blethu yn debyg i’r rhai y gwelwch mewn mosg Islam neu phatrymau Chakra Hindwaeth/Bwdaeth, gan ddatblygu ar y gwaith siapiau a chymesuredd yr ydych wedi gwneud yn eich gwersi Mathemateg. Edrychwch ar sut mae cysgodi yn gallu newid eich siapiau 2D gan roi argraff eu bod yn 3D. Gallech greu symbolau neu lluniau o anifeiliaid allan o’r siapiau, yn arddull MC Escher?
  2. Mae Crefydd yn dylanwadu ar werthoedd a sut ydym yn gwneud penderfyniadau personol. Ymha ffordd mae artistiaid yn dangos beth sydd mwyaf bwysig iddyn nhw yn eu lluniau? Sut mae’r elfennau pwysicaf hynny yn sefyll allan? Edrychwch am ble mae’r artist yn gosod yr elfennau gwahanol hynny, a sut maent yn talu sylw atynt gyda lliwiau, golau a chysgodi. Datblygwch darn o waith e.e. hunan bortread sy’n dangos yr elfennau pwysicaf yn y blaendir mewn lliwiau cryf a llachar, a’r elfennau llai pwysig yng ngefndir y llun mewn lliwiau golau. 

Ble nesaf

Apiau i geisio gyda’ch dysgwyr

Dewch â iaith ac adrodd straeon i’ch gwersi gyda Chatterpix ap sy’n gwneud eich celf dod yn fyw a hyd yn oed siarad gya chi!

Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.

Mae hwn yn #2 o 3 adnodd celf gweledol a fideo.

Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.


*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*

Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.

Yn dod cyn bo hir

Gweld digwyddiadau

Caerdydd Glasurol

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael mwy o wybodaeth am holl weithgareddau Actifyddion Artistig, gan gynnwys ein cyngherddau cerddoriaeth glasurol ar draws Caerdydd.

Cofrestrwch nawr

Plwg yw’r lle i artistiaid ac athrawon ganfod a rhannu cyfleoedd addysgol celfyddydol gwych

plwg.cymru yw gwefan baru’r celfyddydau, diwylliant ac addysg ar gyfer Cymru gyfan, i gefnogi cydweithio rhwng athrawon, pobl greadigol, sefydliadau diwylliannol a’r celfyddydau.
ARCHWILIO CYFLEOEDD