Anogwch eich dysgwyr ifainc i fod yn hyderus gyda’u dewisiadau celf, gan roi le iddyn nhw fod yn annibynnol i ddewis a ddethol eu hadnoddau, a datblygu wal geirfa ar gyfer dadansoddi Celf eraill a chreu Meini Prawf personol i’w hunain.
Mae’r annibyniaeth yn rhoi lle i’r plant ddefnyddio’u creadigrwydd go iawn a gwneud dewisiadau, perffeithio technegau maen nhw wedi’u dysgu, ac arbrofi â gwahanol ddeunyddiau.
Llwythwch y blog hwn i lawr fel taflen adnoddau.
Celf Gweledol #3: Annog eich dysgwyr i fod yn annibynol
Gwneud Safle Creu
Neilltuwch ardal o’r dosbarth am eich Safle Creu, a llenwch â stoc dda o ddeunyddiau ac adnoddau celf. Meddyliwch am gymysgedd:
- papur o wahanol maint a lliw
- brwshys a phaent
- pensiliau, golosg a phasteli.
- elfennau 3D megis cardfwrdd rhychiog, tâp/pritt a siswrn. Gallwch ychwanegu eitemau ato yn ôl y thema, e.e. ffoil am thema’r Gofod, gwellt a chlai am Oes y Celtiaid.
Gallwch hyd yn oed bennu un plentyn yn ‘rheolwr’ yn gyfrifol am stocio’r man yma, a chanddo rhestr wirio am y stoc, a chyfrifoldeb i adael y staff wybod pan fod angen mwy. Gyda phlant hŷn gallent cael cyllideb i’w gwario bob tymor, gan edrych ar eu prisau arlein: ffordd wych o sicrhau bod y Safle Creu yn cael ei barchu ac o integreiddio dysgu bywyd go iawn yn eich stafell ddosbarth.
Dysgwyr yn gosod y Meini Prawf Llwyddiant
Wrth dadansoddi a thrafod sawl gwahanol mathau o waith Celf byddech yn gyson yn roi’r cyfle i ddysgwyr adnabod pa ddewisiadau sydd ar gael iddyn nhw wrth greu Celf gweledol. Cefnogwch datblygiad dysgwyr annibynnol trwy arddangos geirfa allweddol Celf ar wal neu ar set o gardiau.
Gall wal geirfa cynnwys: lliwgar, bywiog , tywyll, atmosfferig, golau, cain, trawiadol, anghyffredin, wedi’u fframio’n ganolig, wedi’u fframio ar un ochr, prysur, gwag, strythuredig, llawn manylder, aneglur, siarp, cyferbyniol, patrymog, symbolig, gwreiddiol, hyderus.
Peidiwch anghofio cynnwys geirfa Sgiliau Creadigol, Dinasyddiaeth a Meddylfryd Twf, a fydd yn cefnogi dysgwyr i fyfyrio ar y broses o greu’r celf yn lle dim ond ar y cynnyrch terfynol: Cydweithio, Dyfalbarhau, Dychmygus, Chwilfrydedd, Disgyblaeth, Cynllunio da, Ymchwilio da, Angerddol, Meddylgar, Moesol, Uchelgeisiol.
Arddangoswch y geirfa allweddol yma fel bod dysgwyr yn gallu dewis a dethol Meini Prawf eu hunain wrth ddod at brosiect, yn fwy tebyg i fwydlen na rhestr-i-wneud. Mae nifer o’r eirfa yma yn ddefnyddiol ar draws y cwricwlwm hefyd, felly croeso i chi groes-peillio!
Ble nesaf: darganfod mwy am addysgu Celf
Cymdeithas defnyddiol am adnoddau a newyddion ydy’r National Society for Education in Art and Design:
Defnyddiwch y linc yma i ffeindio galeri sy’n lleol i chi, a chysylltwch a’u Swyddogion Addysg am gyngor ac i drefnu taith:
http://www.artswales.org/the-top-10-art-galleries-in-wales/
Darganfyddwch mwy am artistiaid Cymraeg yma:
https://artuk.org/discover/stories/sixteen-wonderful-welsh-artists
Dyma’r cyfres o 15 adnodd ‘Sgiliau Syml’, sy’n cyd-fynd gyda fideo ar-lein o’r un enw.
Mae hwn yn #3 o 3 adnodd celf gweledol a fideo.
Mae Hyrwyddwyr Celfyddydau A2 Clymu yn athrawon sy’n gweithio gyda ni i rannu eu profiad ac ymarfer da gydag ysgolion/athrawon eraill yn yr ardal.
*Crëwch a chael hyd i gyfleoedd i’ch ysgol a’ch disgyblion, neu eich busnes creadigol*
Pa un a ydych chi’n athro sydd ar drywydd rhywun creadigol i rannu sgiliau ac ysbrydoliaeth â’ch disgyblion … neu’n rhywun creadigol sydd ar drywydd athrawon a disgyblion all fod ar eu hennill o’ch cyfraniad: cofiwch GREU yn ogystal â CHWILIO am gyfleoedd yn yr Plwg.